Tuesday, February 1, 2022

 Harddwch Parhaol.

Nid oes hufen croen na phwdwr a all gyflawni harddwch parhaol. Efallai y bydd rhai sy'n gwneud i rywun ymddangos yn hardd i'r llygad am ychydig. Ond buan iawn mae'r math hwnnw o harddwch yn gwywo, a mae'n rhaid defnyddio'r cosmetig dro ar ôl tro. Mae yr harddwch a fydd yn para am byth yn harddwch o fath gwahanol. Gwaith y Creawdwr Mawr ydyw, ac mae tystiolaeth o fath o harddwch hwn, i'w gael ym mhobman o'n cwmpas. Nid oes angen hufenau na phowdrau arno Ef i wneud pethau'n hyfryd.

Edrychwch ar y blodau y mae Duw wedi'u gwneud i ni ein mwynhau, pob un â harddwch naturiol yn llifo allan ohonynt. Ni ellir cymharu'r copïau plastig â'r peth dilys.

Dim ond un rysáit sydd, ar gyfer harddwch naturiol a fydd yn para am byth, ac fel gyda phob cynnyrch rydyn ni yn ei brynu, mae'n rhaid i ni ddarllen y cyfarwyddiadau os ydyn ni am dderbyn ei fuddion.

Mae Duw, yn ei ddaioni, wedi rhoi rysáit i bob un ohonom am harddwch tragwyddol. Mae'n addo, os dilynwn y rysáit y mae wedi'i gosod yn ei Lyfr - y Beibl - y bydd gennym harddwch naturiol mewnol am byth!

Ni all unrhyw un wadu bod harddwch wedi tywynnu allan o Iesu ym mhopeth a ddywedodd ac a wnaeth. Tosturiodd wrth y rhai mewn angen, iachaodd y sâl, bwydodd y newynog, a'r rhai a'i clywodd yn siarad, "Ni lefarodd neb erioed fel hyn" (Ioan 7:46) “Y gyfraith a roddwyd trwy Moses, ond y gras a’r gwirionedd a ddaeth trwy Iesu Grist. Ni welodd neb Dduw erioed: yr unig-anedig Fab, yr hwn sydd ym mynwes y Tad, hwnnw a’i hysbysodd ef” (Ioan 1: 17,18 Beibl William Morgan – Argraffiaid 1955).   

Yr harddwch sy'n para am byth - yw ansawdd y cymeriad a ddangosodd Iesu. Nid harddwch ymddangosiad, oherwydd ni wyddom ddim am sut yr edrychodd Iesu, ond yn hytrach harddwch ei gymeriad, a oedd yn gymeriad ei Dad, fel y gallai Iesu ddweud "Y mae'r sawl sydd wedi fy ngweld i wedi gweld y Tad" (Ioan 14: 9).

Dysgodd Iesu bob dydd neges iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol addawyd gan Dduw, i bawb sy'n dilyn esiampl ei Fab, hyd eithaf eu gallu.

Mae geiriau Iesu wedi cael eu cofnodi yn ofalus ac yn ffyddlon yn y Beibl i ni eu darllen, felly mae’r cynnig a wnaeth Duw, yn dal ar agor i unrhyw un i fanteisio arno.

Mae gennym y fraint o allu darllen drosom ein hunain a chymryd yr her o ddilyn esiampl yr Arglwydd Iesu Grist - i gael ein cyfrif yn gyfiawn ac i gael ein gwneud yn anfarwol - a chael harddwch tragwyddol nad yw "yn gwywo i ffwrdd" yn Teyrnas Dduw ar y ddaear.

Mae’r harddwch parhaol hwnnw yn hygyrch i bawb fel rhodd gan Greawdwr pob peth - trwy Iesu Grist ei Fab - fel y dywed (2 Timotheus 1:10) wrthym - “A amlygwyd yn awr drwy ymddangosiad ein Gwaredwr, Crist Iesu. Oherwydd y mae ef wedi dirymu marwolaeth, a dod â bywyd ac anfarwoldeb i'r golau trwy'r Efengyl”.

Troednodyn – Daw’r dyfyniadau a ddefnyddiwyd yn y blog hwn o Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygyedig (BCND) 2004 oni nodir yn wahanol. 

 

 

No comments:

Post a Comment

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...