Ym 1800, cerddodd Cymraes 15 oed,
25 filltir i’r Bala, tre fach yn y Canolbarth, i gael ei Beibl ei hun. Nid yn
unig oedd hynny yn stori ynglyn a Chymraes ifanc yn cael Beibl iddi hi ei hun,
ond dechrau ymdrech i sicrhau bod Beibl ar gael ym mhob iaith ac i bawb ledled
y byd. Mae’r llyfryn hwn yn esbonio.
Mae’r stori yn cychwyn yn
Llanfihangel-y-Pennant, pentref bach wledig mewn cwm ar waelod mynydd o’r enw
Cader Idris, yn y Canolbarth. Dyma ble
cafodd Mary Jones ei geni ym mis Rhagfyr 1784, mewn bwthyn dlawd o’r enw
Ty’n-y-Ddol, ar ochr nant droellog.
POBL TLAWD
Yr adeg honno, roedd pobl werin
Cymru yn dlawd iawn. Doedd dim ysgolion go iawn a doedd dim llawer o bobl yn gallu darllen. Cyn ei phen-blwydd yn bump oed, bu farw tad Mary,
ac felly roedd hi’n anodd i fam Mary ennill digon o arian i’r teulu. Yr adeg honno hefyd, roedd mwy a
mwy o bobl yng Nghymru yn dechrau ymddiddori yn y Beibl. Enw hynny oedd “diwigiad”, a chafodd hynny ei
arwain gan bregethwyr Methodistiaid. Mynochodd
Mary a’i mam gyfarfodydd o dan arweiniad William Hugh o Lechwedd. Gan ganlyniad y
cyfarfodydd ‘ma, dechreuodd
diddordeb mawr ‘da Mary yn y Beibl, ond yn anffodus, doedd hi ddim yn gallu
darllen. Dysgodd hi ddarllen pan aeth hi
i un o’r ysgolion lleol, wedi trefnu gan bregethwr enwog o’r Bala, yn un o’r
pentrefi gerllaw – Abergynolwyn.
Unwaith i Fair allu darllen, roedd
problem o hyd. Roedd Beiblai Cymraeg yn
rhy ddrud o lawer i fam Mary. Ond roedd
Beibl gan Mrs
Evans, oedd yn byw ar Fferm Penybryniau, tua dwy filltir i ffwrdd
o dy Mary, Roedd hi’n arfer cerdded I
Benybryniau bob wythnos, beth bynnag y tywydd, i ddarllen a dysgu darnau allan
o’r Beibl yn lolfa Mrs Evans.
Roedd Mary yn awyddus iawn o gael
ei Beibl ei hun, a phenderfynodd hi gynilo pob ceiniog i brynu Beibl, Roedd hynny’n dasg anodd, achos yr adeg
honno, roedd Beiblai yn ddrud iawn.
Cynilodd Fair bob ceiniog gafodd hi gan y cymdogion roedd hi’n arfer eu
helpu nhw, ond roedd rhaid iddi hi gynilo tan ar ol ei phen-blwydd yn 15 i gael
digon o arian i brynu Beibl.
DIM DIGON O FEIBLAU
Roedd problem arall, hefyd. Roedd beiblau Cymraeg yn brin iawn, ac roedd
yn anodd iawn dod o hyd iddyn nhw. Dyna oherwydd argrafffwyr y Frenin yn
Llundain oedd yr unig pobl oedd yn cael argraffu Beiblau, ac ron nhw’n mynnu
cael arian ar gyfer y Beiblai cyn dechrau argraffu. Dyna oherwydd ron nhw’n gwybod nad oedd y rhan fwya o bobl Cymru yn
gallu eu fforddio nhw. Felly, roedd
angen cael arian oddi wrth noddwyr fel “The Society for Promoting Christian
Knowledge” a’r “Religious Tract Society”.
Er enghraifft, cafodd y Beibl cynta ar gyfer y teulu (yn hytrach na’r
Beiblau mawr yr Eglwys) ei argraffu ym 1630.
Roedd hynny yn bosibl gan ganlyniad anrheg enfawr o £1,000 gan ddau
Gymro oedd yn byw yn Llundain.
Stori Mary
Dyma stori Mary, yn ei geiriau ei
hun, sy’n disgifio sut gafodd hi ei Beibl gan Thomas Charles. Dwedodd Mary ei hun y stori’ma wrth Lizzie
Rowlands. Pan oedd Lizzie yn ifanc, roedd hi’n arfer darllen y Beibl i
Fair pan oedd hi’n hen ac yn ddall.
“Un fore Llun stormus, ron i’n cerdded
tuag at ffermdy tua dwy filltir o fy nghartref.
Gwelais i ddyn ar geffyl gwyn ac yn gwisgo mantell, yn dod tuag ata i ac
yn gofyn i mi ble o’n i’n mynd yn yr holl wynt a glaw. Dwedais i fy mod yn mynd i ffermdy ble oedd
Beibl, a doedd dim un yn agosach at fy nhy, a bod y ffermwraig wedi dweud fy
mod yn gallu gweld y Beibl oedd ar y bwrdd en ei pharlwr, taswn i’n fodlon tynnu fy nghlogau. Dwedais I wrtho fe fy mod i wedi bod yn cynilo arian am gyfnod hir i
brynu Beibl ond don i ddim yn gwybod ble
baswn i’n gallu prynu Beibl. Enw’r dyn
oedd “Charles o’r Bala”. Dywedodd e y
dylwn i ddod i’r Bala achos roedd e’n disgwyl derbyn Beiblau o Lundain, a baswn
i’n gallu cael un ohonyn nhw.
Pan oedd digon o arian ‘da fi i brynu fy Meibl, rhoiodd fy mam yr
arian ac ychydig o fara a chaws, yn ogystal a fy nghlogau, i mewn i’r “waled”,
a bant a fi i’r Bala un fore braf.
Ymlaciais i ar y ffordd wrth y don, i fwyta’r bara a’r caws.
Cyrrhaeddais i’r Bala a chnociais i ar ddrws ty Mr Charles. Gofynnais i am Mr Charles, a chlywais i eu
fod yn ei stydi yng nghefn y ty. Ron i’n
cael mynd ato fe, a dwedodd e fod y Beiblau heb gyrraedd. Dechreuais i grio, achos fy mod i ddim yn
gwybod ble i aros. Aeth e a fi i aros gyd
‘i hen was, oedd yn byw mewn ty ar waelod o’i ardd, nes i’r Beiblai
gyrraedd.
Unwaith iddyn nhw gyrraedd,
rhoiodd Mr Charles tri Beibl i mi – talais i am un, ond roedd y ddau eraill am
ddim. Dechreuais i ar fy ffordd adre
gyda fy
nhresor.werthfawr, a rhedais i y rhan fwya o’r amser. Ron i mor falch o gael Beibl”.
GWEDDILL STORI MARY
Bu farw Mary ym 1864, yn 80 oed, a
chladdwyd ym mynwent Capel Bethlem, Bryncurig, ond nid diwedd ei stori ydy
hynny. Roedd y ffaith bod Mary, ac
eraill, eisiau cael eu Beiblau eu hun, yn profi bod rhaid gwneud ymdrech i
sicrhau bod digon o Feiblau ar gael, yn Gymraeg, yng Nghymru. Roedd y Beiblau a gyhoeddwyd gan yr “SPCK”
wedi gwerthu allan yn gyflym, ac felly penderfynodd Thomas Charles fynd i
Lundain i ofyn am ragor o Feiblau i Gymru.
Ar y 7fed o Ragfyr, 1802,
mynochodd e gyfarfod o’r “Religious Tract Society”, mewn warws yn Swan Wharf,
ger London Bridge. Perchennog y
warws
oedd Thomas Hardcastle, oedd yn gristion frwd.
Yr adeg honno roedd rhyfel yn Ewrop,
ac roedd perygl y byddai’r rhyfel yn estyn tuag at Loegr hefyd. Doedd hynny ddim yn amser da i son am
syniadau newydd, ond doedd dim ofn ar y dynion yn y cyfarfod i geisio cael mwy
o Feiblau.
“Os bydd beiblau i Gymru, beth am Loegr, a beth am y byd i gyd?” dwedodd
un ohonyn nhw.
Ac felly, ym 1804, ffurfiwyd y
“British and Foreign Bible Society.”
Roedd hi’n amlwg bod Thomas Charles wedi dechrau rhywbeth mwy nag
argraffu Beiblau ar gyfer ei wlad ei hun.
Ers hynny, mae’r Cymdeithas y Beibl wedi argraffu milionau o
Feiblau. Heddiw mae’r Beibl yn cael ei
argraffu mewn dros 2,230 iaith ledled y byd.
CYFFRO YNG NGHYMRU
Pan cyrhaeddodd y copiau cynta o’r
Testament Newydd Cymdeithas y Beibl y Bala ym mis Medi 1806, roedd cyffro
mawr. Yn ol y papurau newydd, digwyddodd
pethau rhyfedd iawn pan cyrhaeddodd y Beiblau.
O’r oriau cynnar y bore roedd
grwpiau o bobl yn dod at ei gilydd o bobman, ac wrth i’r newyddion gyrraedd fod
y Beiblau yn nesau at y dre, aeth dorfaedd o bobl allan i gwrdd a nhw. Cafodd y goets ei thunnu i’r dre gan ddynion
ifanc cryf a hapus, ble cawson nhw groeso mawr gan bawb oedd yn aros yn y
strydoedd. Prin y gafodd Thomas Charles
amser i ddadlwytho’r Beiblai - cawson nhw
i gyd eu gwerthu yn syth bin. Roedd
hynny yn dangos pa mor awyddus oedd y bobl o ddarllen y Beibl yr adeg honno.
TRYSOR HYD OES
Wedyn, priododd Mary wedydd o’r enw Thomas Jones, ac aethon nhw i
fyw i Fryncurig, ble cafodd hi 6 o blant,
Buon nhw farw i gyd yn ifanc, ar wahan i un mab, Ioan. Aeth Ioan a’i deulu i fyw i America ond, tua
1852, bu farw
gwr Mary, ac felly roedd rhaid iddi hi dreulio’r 12 flwyddyn
ola’i bywyd ar ei phen ei hun, yn dlawd iawn.
Ond roedd Mary yn dwlu ar ei Beibl
ar hyd ei hoes ac wedyn, etifidiwyd y Beibl gan y “British & Foreign Bible
Society”, sy’n cadw’r beibl yn ei Llyfrgell ym Mhrifysgol Caergrawnt. Aeth un o’r
Beiblai gafodd Mary Jones i’w
modryb, ac wedyn i Lizzie Rowlands. Nawr
mae’ n cael ei cadw gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r trydydd wedi diflannu, ond efallai
aethpwyd y Beibl i America gydag Ioan.
ESIAMPL I NI
Beth dyn ni’n gallu dysgu, wedi
darllen y stori uchod ynglyn a chariad tuag at y Beibl, y gair Duw? Mae’n stori sy’n disgrifio cariad Mary tuag
at y Beibl, a beth wnaeth hi er mwyn cael un – fasen ni’n gwneud yr un peth? Nawr, mae’r beibl ar gael i bawb; maen nhw’n
rhad, ac mae llawer ohonyn nhw. Ond ydyn
ni’n eu darllen nhw? Ydyn ni’n awyddus o
gael y gair o fywyd yn ein dwylo ac yn caru’i neges o obaith a goleuni yn ein
byd tywyll?
Darllennodd Mary Jones ei beibl lawer
o weithiau, Pam nad ych chi’n dechrau darllen eich Belbl
heddiw? Basen ni’n falch o anfon “Bible Reading Companion” atoch chi er
mwyn eich helpu chi ddarllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Mae gennon ni restr o lyfrynau eraill sydd ar
gael yn rhad ac am ddim, er mwyn eich helpu chi ddeall eich Beibl.
Cysylltwch â ni
No comments:
Post a Comment