Thursday, December 30, 2021

Meddwl Pethau Drwodd.

 

Daw'r hyn rydyn ni yn ei wybod am Iesu yn bennaf o'r Beibl. Nid oes unrhyw anghydfod mai Mair oedd ei fam, a bod ei dad naill ai yn Joseff neu yn Dduw.

Ond mae'r Beibl yn eithaf clir ynglŷn â'r mater hwn. Mae'n dweud yn Luc 1:35, “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; p31 byddi'n beichiogi; p32 a Mab y Goruchaf; p35 Mab Duw; p32 “rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, p33 ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd”

Mae ysgrythurau’r Hen Destament a’r Newydd yn ei gwneud yn glir, y byddai Duw yn Dad i fab, a addawyd i un o ddisgynyddion Dafydd, brenin Israel. Dywed Duw sy’n siarad â Dafydd yn 2 Samuel 7:14, “Byddaf fi'n dad iddo ef, a bydd yntau'n fab i mi . . p16 Sicrheir dy deulu a'th deyrnas am byth o'm blaen”.

Ac yn Eseia 7:14, “Wele ferch ifanc yn feichiog, a phan esgor ar fab, fe'i geilw'n Immanuel” [gyda'r ystyr Y mae Duw gyda ni]. Dywed Ioan 1:14, “A daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant ef, ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad”.

Felly gwelwn fod Iesu wedi datgelu a chynrychioli Duw, ei Dad, i'r byd - ond ni honnodd erioed ei fod yn Dduw, fel y mae'r credoau Trindodaidd yn ei ddatgan.

Fel y dywed Philipiaid 2:5-11 wrthym, a p6 am Iesu, “Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio. P7 ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol”.

Ond sut gallai Iesu, a oedd yn ôl y credoau eisoes yn Dduw - sut y gallai gipio unrhyw beth o Dduw? Gan nad oedd hyn yn bosibl rhaid i ni edrych am esboniad arall. Mae'r ddysgeidiaeth a'r esboniad i'r pennill hon yn y gair gipio. Gellir cyfieithu'r gair gipio fel, ‘ddim yn cyfrif cydraddoldeb yn beth i gael gafael arno’.

Mae hwn yn ddysgu 5 peth inni. [1] roedd yn bosibl i Iesu gipio cydraddoldeb â Duw. [2] ni wnaeth hynny - felly nid oedd ganddo gydraddoldeb â Duw. [3] felly nid Duw oedd Iesu. [4] felly mae Iesu a Duw yn ddau berson gwahanol. [5] roedd gan Iesu safle is na Duw.

Felly rydyn yn gweld, bod yna ddarnau yng Ngair Duw, y Beibl, sy'n dweud wrthym fod Duw, y Tad, ar wahân i ac yn fwy na Iesu ei Fab. Mae Iesu ei hun yn tystio i hyn yn Ioan 14:28 lle mae'n dweud, “Y mae'r Tad yn fwy na mi”.

Cafodd yr apostol Pedr gyfle perffaith i ddatgan pwy oedd Iesu, pan ofynnodd Iesu’r cwestiwn hwn iddo yn uniongyrchol, yn Mathew 16:15, “Pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr p16, “Ti yw'r Meseia, Mab y Duw byw”. Mae ateb Iesu i’r cyfaddefiad hwn o ffydd gan Peter, yn cadarnhau gwirionedd datganiad Pedr, p17, “Gwyn dy fyd, Simon fab Jona, oherwydd nid cig a gwaed a ddatguddiodd hyn iti ond fy Nhad, sydd yn y nefoedd”.

Mae'r enwau Mab Duw a Christ, y mae Pedr yn eu defnyddio yn Mathew 16:16, yn tynnu sylw at Fab disgwyliedig Dafydd; fel Brenin yn eistedd ar orsedd Dafydd yn Jerwsalem; dros Deyrnas dragwyddol Duw ar y Ddaear; pan fydd Iesu yn dychwelyd i’r ddaear. Felly, roedd y Meseia disgwyliedig yn berson dynol, yn un o ddisgynyddion Dafydd, a anwyd yn naturiol gan bŵer Ysbryd Glân Duw, gan wneud Duw yn Tad iddo.

Fel ninnau, fel y mae traethiad y Beibl yn ei ddangos, daeth Iesu i'r byd hwn yn faban diymadferth; tyfodd mewn gwybodaeth a doethineb; wedi profi holl wendidau cyffredin dynoliaeth; dioddefodd newyn, syched, a blinder.

Roedd ganddo emosiynau dwfn unrhyw berson dynol, mynegodd ddicter a tosturi, ac roedd ganddo ewyllys ei hun a ddarostyngodd, a gweddïodd y gallai ddianc rhag y math o farwolaeth yr oedd i'w hwynebu. Ni ddylem gael fawr o anhawster felly i ddeall, fel y gwnaeth Pedr, fod Iesu wedi cyflawni rhan y Meseia, a Mab Duw - ond yn sicr nid Duw ydoedd.

Mae’n bwysig ein bod yn deall ac yn credu’r pethau hyn, oherwydd dim ond trwy y fywyd, yr aberth ac atgyfodiad Iesu, a oedd yn ddynol (Hebreaid 2:17), y gellir gwireddu gobaith y Beibl am iachawdwriaeth a bywyd tragwyddol (Actau 4: 12; Ioan 20:31).

Pa obaith, y mae Pedr yn cyfeirio ato yn yr araith a wnaeth ar Ddydd y Pentecost yn Actau 2: 22-36. Mae Pedr hyd yn oed yn dyfynnu geiriau Dafyddd a'r gobaith oedd ganddo, yn yr hyn y byddai Duw yn ei gyflawni trwy ei Fab, ac oherwydd yr hyn roedd Duw wedi'i addo i Ddafydd ei hun.

Actau 2:26, dywedodd Dafydd yn siarad am Iesu, “llawenychodd fy nghalon . . gorfoleddodd fy nhafod . . bydd fy nghnawd hefyd yn preswylio mewn gobaith”, (o gael codi oddi wrth y meirw a chael anfarwoldeb); p28 “Hysbysaist imi ffyrdd bywyd; byddi'n fy llenwi â llawenydd yn dy bresenolde” - fel yr addawodd Duw i Dafydd yn 2 Samuel 7:16.

Os nad oedd Iesu yn ddynol, yn union fel yr ydym ni, yna nid oes gennym unrhyw sicrwydd y gellir codi bodau dynol i fywyd eto oddi wrth y meirw, i gael derbyn bywyd tragwyddol am wasanaeth ffyddlon i Dduw.

Ond oherwydd ei fod wedi digwydd i un dyn - yr Arglwydd Iesu Grist - gall ddigwydd eto, trwy ffydd a chred yng Ngair Duw 'a thrwy ei ras - i chi a fi hefyd (I Corinthiaid 15: 21-23); ynghyd â gobaith am le yn Nheyrnas fyd-eang dragwyddol Duw, y Tad, ar y Ddaear, gyda Iesu ei Fab yn teyrnasu fel Brenin dros y Nheyrnas.

 

Troednodyn – Daw’r dyfyniadau a ddefnyddiwyd yn y blog hwn o Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygyedig (BCND) 2004 oni nodir yn wahanol.  

No comments:

Post a Comment

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...