Gwrandewais ar ddadl yn ddiweddar, am broblemau cymryd cyffuriau, gor-yfed, trais a fandaliaeth, sydd yn gyffredin yn ghymdeithas y gorllewin heddiw. Y casgliad y daeth y cyfranogwyr iddo oedd bod pobl i gyd yn dda yn y bôn; mai dim ond rhyw 10% o bobl sy'n ymddangos yn benderfynol o'i ddifetha i eraill oherwydd eu hymddygiad gwrthgymdeithasol; ond unwaith y darganfyddir ffordd o ddiwygio'r lleiafrif hwn bydd y byd yn lle da i fyw ynddo.
Roedd
y rhan fwyaf o’r farn bod pobol yn ymddwyn yn y ffordd anfoesgar hon oherwydd
diffyg cywiriad ac arweiniad rhieni pan oeddent yn ifanc; ac os na allant
dorri’n rhydd o ymddygiad o’r fath, fe barhaodd gyda nhw i oedolaeth I gael ei
drosglwyddo i’w plant - ond ni allent gytuno ar ateb boddhaol i’r broblem.
Ond
beth sydd gan Dduw i'w ddweud ar y mater, Efe a creodd ni ac sy'n deall ein
natur yn well na ni ein hunain?
“Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei
deall hi? Ond yr wyf fi, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r gallon ac yn profi
cymhellion i roi i bawb yn ôl eu ffyrdd ac yn ôl ffrwyth eu gweithredoedd”
(Jeremeia 17:9.10).
Beth ddywedodd yr
Arglwydd Iesu am ei gyd-ddyn?
“O'r tu mewn, o galon dynion, y daw
allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu,
anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o'r tu
mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun”
(Marc 7:21-23).
Mae Duw a’i
Fab, yr Arglwydd Iesu Grist, yn sicr yn ein gweld ni fel creaduriaid diffygiol
– ddim mor dda yn ei hanfod. Ond nid dyna ddiwedd y stori.
Neges
ryfeddol y Beibl yw, bod Duw eisiau ein hachub ni o’n cyflwr presennol. Dyna
oedd ei fwriad pan anfonodd ei Fab i'r byd. Dyna’r ystyr yr adnod enwocaf yn y
Beibl: “Carodd
Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo
ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol” (Ioan 3:16).
Nid oes yr
un ohonom yn dda yn naturiol, ond gallwn gael ein gwneud yn gyfiawn ac yn
anfarwol, os credwn ym mywyd achubol a marwolaeth aberthol yr Arglwydd Iesu
Grist. Mae Duw wedi rhoi’r gallu i ni wahaniaethu rhwng da a drwg, sydd yn
golygu y gallwn ni wneud dewisiadau mewn bywyd.
Mae am inni
ddangos y meddylfryd a’n hymddygiad a ddangoswyd gan ei Fab, yr Arglwydd Iesu
Grist – yr unig ddyn perffaith sydd erioed wedi byw – fel y gall Crist roi inni
gyfiawnder ac anfarwoldeb a’n gwneud ni’n berffaith hefyd, trwy ras, ac yn
addas i cael lle arhosol yn Nheyrnas Dduw ar y ddaear, fel y mae’r tair adnod
ganlynol yn datgelu.
Ioan 17:2 “Rhoddaist
iddo ef awdurdod ar bob un, awdurdod i roi bywyd tragwyddol i bawb yr wyt ti
wedi eu rhoi iddo ef”.
Rhufeiniaid 6:23 “Y mae pechod yn talu cyflog, sef
marwolaeth; ond rhoi yn rhad y mae Duw, rhoi bywyd tragwyddol yng Nghrist Iesu
ein Harglwydd”.
Effesiaid 2:8 “Trwy ras yr ydych wedi eich achub,
trwy ffydd. Nid eich gwaith chwi yw hyn; rhodd Duw ydyw”.
Troednodyn
– Daw’r dyfyniadau a ddefnyddiwyd yn y blog hwn o Y Beibl Cymraeg Newydd
Diwygyedig (BCND) 2004 oni nodir yn wahanol.
No comments:
Post a Comment