YR HWN MAE’R BEIBL YN EI DDYSGU A’R CHRISTADELFFIAID YN CREDU
“DY AIR DI YW’R GWIRIONEDD”.
Ioan 17:17
Rhagair
Daeth y Christadelphiaid (brodyr a chwiorydd yng Nghrist)
yn adnabyddus wrth yr enw hwn tua 1865.
Ein nod yw byw trwy ffydd yn Iesu Grist, yn ôl addysgu'r
apostolion o'r ganrif gyntaf, ac fel y cofnodwyd yn y Beibl. Derbyniwn mae'r
Beibl cyfan yw gair ysbrydoledig Duw.
Rheol ein bywyd yw dilyn Iesu a'i ddisgyblion, a chanolbwyntio ein gobeithion ar ail-ddyfodiad Iesu Grist, pan fydd yn rhoi bywyd tragwyddol i'w ddisgyblion ffyddlon, a sefydlu ar y ddaear hir-addawyd Teyrnas Dduw.
Y Beibl
Y Wers – Fe ddylem gael yr un ymddiriedaeth a hyder yn yr
Ysgrythur ag oedd gan Iesu a'r apostolion, a derbyn mai
gair ysbrydoledig Duw yw'r Beibl yn ei gyfanrwydd.
Y Wers – Rydym yn farwol ac angen
yr iachawdwriaeth y mae'r Beibl yn ei gynnig.
Moses “Llwch wyt ti, ac i'r llwch y dychweli”. Gen. 3.19
Salm “Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion, mewn unrhyw un na all waredu; bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear, a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau”. Salm 146:3,4.
Eseia “Y mae pob un meidrol fel glaswellt, a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno. Yn wir, glaswellt yw'r bobl”. Eseia 40:6,7.
Salm 37:11; Mathew 5:5.
Salm “Y nefoedd, eiddo'r ARGLWYDD yw, ond fe roes y ddaear i ddynolryw”. Salm 115:16.
Cyflwr Y Meirw
Salm “Oherwydd nid oes cofio amdanat ti yn angau; pwy sy'n dy foli di yn Sheol?” Salm 6:5.
Heseceia
“Canys ni fydd y
bedd yn diolch i ti, nac angau yn dy glodfori; ni all y rhai sydd wedi disgyn
i'r pwll obeithio am dy ffyddlondeb”. Eseia
38:18.
“Gyfeillion, gallaf siarad yn hy wrthych am y patriarch Dafydd,
iddo farw a chael ei gladdu, ac y mae ei fedd gyda ni hyd y dydd hwn . . . . . nid . . . esgynnodd i'r nefoedd; y mae ef ei
hun yn dweud”. Actau 2:29,34.
“Ac os nad yw Crist wedi ei gyfodi, ofer yw eich ffydd, ac yn eich
pechodau yr ydych o hyd. Y mae'n dilyn hefyd fod y rhai a hunodd yng Nghrist
wedi darfod amdanynt. Os ar gyfer y bywyd hwn yn unig yr ydym wedi gobeithio
yng Nghrist, nyni yw'r bobl fwyaf truenus o bawb”. Corinthiaid 15:17-19.
Y Wers – Fe ddylem ddilyn esiampl disgyblion Iesu a
disgwyl ei ail ddyfodiad.
Mae Iesu'n
dychwelyd i gyflawni'r gwaith a ddechreuodd ar ei ddyfodiad cyntaf.
“Pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Bydd yr Iesu hwn,
sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y
gwelsoch ef yn mynd i'r nef.” Actau 1:11
“Ac yr anfona ef y Meseia a benodwyd i chwi, sef Iesu, yr hwn y
mae'n rhaid i'r nef ei dderbyn hyd amseroedd adferiad pob peth a lefarodd Duw
trwy enau ei broffwydi sanctaidd erioed”.
Actau
3:20,21.
“Yn nhŷ fy Nhad y mae llawer o
drigfannau; pe na byddai felly, a fyddwn i wedi dweud wrthych fy mod yn mynd i
baratoi lle i chwi? Ac os af a pharatoi lle i chwi, fe ddof yn ôl, a'ch cymryd
chwi ataf fy hun, er mwyn i chwithau fod lle'r wyf fi. Ioan 14:2,3
“Oherwydd pan floeddir y gorchymyn,
pan fydd yr archangel yn galw ac utgorn Duw yn seinio, bydd yr Arglwydd ei hun yn
disgyn o'r nef; bydd y meirw yng Nghrist yn atgyfodi yn gyntaf. 1 Thess. 4:16.
“Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad. Mat. 16:27.
Iesu
Y Brenin
Y Wers - Bydd yr
Arglwydd Iesu Grist yn Frenin dros yr holl ddaear pan fydd yn dychwelyd. Dim ond trwy deyrnasiad cyfiawn Iesu dros yr holl ddaear y bydd
yn bosibl i Dduw lenwi'r ddaear â'i ogoniant.
Gabriel
“Ac wele, byddi'n beichiogi yn dy groth ac yn esgor ar fab, a
gelwi ef Iesu. Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr
Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac
ar ei deyrnas ni bydd diwedd. Luc
1:31-33.
“Wele'r dyddiau yn dod,” medd yr ARGLWYDD, y cyfodaf
i Ddafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu'n ddoeth, yn gwneud
barn a chyfiawnder yn y tir. Yn ei ddyddiau ef fe achubir Jwda ac fe drig
Israel mewn diogelwch; dyma'r enw a roddir iddo: ‘Yr ARGLWYDD ein Cyfiawnder’. Jeremeia 23:5,6.
“Yn y dydd hwnnw, gesyd ei draed ar Fynydd yr Olewydd, sydd
gyferbyn â Jerwsalem i'r dwyrain . . . Yna bydd yr ARGLWYDD yn frenin ar yr
holl ddaear; a'r dydd hwnnw bydd yr ARGLWYDD yn un, a'i enw'n un”. Sechareia
14:4,9.
Daniel “Yn nyddiau'r brenhinoedd hynny bydd Duw'r nefoedd yn sefydlu brenhiniaeth nas difethir byth, brenhiniaeth na chaiff ei gadael i eraill. Bydd hon yn dryllio ac yn rhoi terfyn ar yr holl freniniaethau eraill, ond bydd hi ei hun yn para am byth”. Daniel 2:44
Iesu “Aeth brenhiniaeth y byd yn eiddo ein Harglwydd ni a'i Grist ef, a bydd yn teyrnasu byth bythoedd . . . Yr ydym yn diolch i ti, O Arglwydd Dduw holl alluog, yr hwn sydd a'r hwn oedd, am iti feddiannu dy allu mawr a dechrau teyrnasu”. Datguddiad 11:15,17.
Daniel “Mai'r Goruchaf sy'n rheoli teyrnasoedd pobl ac yn eu rhoi i'r sawl a fyn . . . Y mae ei arglwyddiaeth yn arglwyddiaeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth o genhedlaeth i genhedlaeth”. Daniel 4:25,34.
Moses “Yn awr, os gwrandewch yn ofalus arnaf a chadw fy nghyfamod . . . Byddwch hefyd yn deyrnas o offeiriaid i mi, ac yn genedl sanctaidd” Exodus 19:5,6.
Dafydd “Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb. 11I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl . . . Felly eisteddodd Solomon ar orsedd yr ARGLWYDD yn frenin yn lle Dafydd ei dad; (a) cafodd lwyddiant”. 1 Cronicl 29:10,11,23.
Eseciel “A thithau, dywysog annuwiol a drygionus Israel, yr un y daeth ei ddydd yn amser y gosb derfynol, 26fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW: Diosg y benwisg a thyn y goron . . . Adfail! Adfail! Yn adfail na fu ei bath y gwnaf hi, nes i'r hwn a'i piau trwy deg ddod, ac imi ei rhoi iddo ef”. Eseciel 21:25-27.
Sechareia “Ac edrychant ar yr un a drywanwyd ganddynt, a galaru amdano fel am uniganedig, ac wylo amdano fel am gyntafanedig”. Secharia 12:10.
Iesu “Bydd yno wylo a rhincian dannedd, pan welwch Abraham ac Isaac a Jacob a'r holl broffwydi yn nheyrnas Dduw, a chwithau'n cael eich bwrw allan”. Luc 13:28.
Y Wers – Daw drygioni o'r gallon. Y diafol yw unrhyw un neu unrhyw beth sydd mewn gwrthwynebiad i Dduw. Gellir dinistrio'r diafol trwy waith achubol Crist.
Iago “Pan yw rhywun yn cael ei demtio, ei chwant ei hun sydd yn ei dynnu ar gyfeiliorn ac yn ei hudo”. Iago 1:14.
Hebreaid “Felly, gan fod y plant yn cydgyfranogi o'r un cig a gwaed, y mae yntau, yr un modd, wedi cyfranogi o'r cig a gwaed hwnnw, er mwyn iddo, trwy farwolaeth, ddiddymu'r hwn sydd â grym dros farwolaeth, sef y diafol . . . Ond yn awr, un waith am byth, ar ddiwedd yr oesoedd, y mae ef wedi ymddangos er mwyn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun”. Hebreaid 2:14; 9:26.
Iesu “Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun”. Marc 7:21-23.
Paul “Y mae gweithredoedd y cnawd yn amlwg, sef puteindra, amhurdeb, anlladrwydd, eilunaddoliaeth, dewiniaeth, cweryla, cynnen, eiddigedd, llidio, ymgiprys, rhwygo, ymbleidio, cenfigennu, meddwi, cyfeddach, a phethau tebyg. Yr wyf yn eich rhybuddio, fel y gwneuthum o'r blaen, na chaiff y rhai sy'n gwneud y fath bethau etifeddu teyrnas Dduw”. Galatiaid 5:19-21.
Ioan “Onid myfi a'ch dewisodd chwi'r Deuddeg? Ac eto, onid diafol yw un ohonoch?” Ioan 6:70.
Iago “Gwrthsafwch y diafol, ac fe ffy oddi wrthych”. Iago 4:7.
Paul “Un Duw sydd, ac un cyfryngwr hefyd rhwng Duw a dynion, sef Crist Iesu, yntau yn ddyn”. 1 Timotheus 2:5.
Paul “Pen Crist yw Duw”. 1 Corinthiaid 2:5
Paul “Ond pan fydd pob peth wedi ei ddarostwng i'r Mab, yna fe ddarostyngir y Mab yntau i'r hwn a ddarostyngodd bob peth iddo ef, ac felly Duw fydd oll yn oll”. 1 Corinthiaid 15:28
Paul “Un corff sydd, ac un Ysbryd, yn union fel mai un yw'r gobaith sy'n ymhlyg yn eich galwad; un Arglwydd, un ffydd, un bedydd, un Duw a Thad i bawb, yr hwn sydd goruwch pawb, a thrwy bawb, ac ym mhawb”. Effesiaid 4:4-6.
Iesu “Mae'r Tad yn fwy na mi”. Ioan 14:28.
Iesu “Nid yw'r Mab yn gallu gwneud dim ohono ei hun, dim ond yr hyn y mae'n gweld y Tad yn ei wneud”. Ioan 5:19.
Iesu “Os cadwch fy ngorchmynion fe arhoswch yn fy nghariad, yn union fel yr wyf fi wedi cadw gorchmynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef”. Ioan 15:10.
Iesu “Ond gwneler dy ewyllys di, nid fy ewyllys I”. Luc 22:42.
Gabriel “Daw'r Ysbryd Glân arnat, a bydd nerth y Goruchaf yn dy gysgodi; am hynny, gelwir y plentyn a genhedlir yn sanctaidd, Mab Duw”. Luc 1:35.
Pedr “Ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobl oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân”. 2 Pedr 1:21.
Pedr “Iesu o Nasareth . . . yr eneiniodd Duw ef â'r Ysbryd Glân ac â nerth”. Actau 10:38.
Iesu “Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.” Ioan 3:16.
Paul “Nid oes arnaf gywilydd o'r Efengyl, oherwydd gallu Duw yw hi ar waith er iachawdwriaeth i bob un sy'n credu, yr Iddewon yn gyntaf a hefyd y Groegiaid . . . Os cyffesi Iesu yn Arglwydd â'th enau, a chredu yn dy galon fod Duw wedi ei gyfodi ef oddi wrth y meirw, cei dy achub”. Rhufeiniaid 1:16; 10:9.
Hebreaid “Heb ffydd y mae'n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i'r sawl sy'n dod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn gwobrwyo'r rhai sy'n ei geisio”. Hebreaid 11:6.
Paul “Ond petai rhywun, ni ein hunain hyd yn oed, neu angel o'r nef, yn pregethu i chwi efengyl sy'n groes i'r Efengyl a bregethasom ichwi, melltith arno!” Galatiaid 1:8.
Iesu ““Ewch i mewn trwy'r porth cyfyng; oherwydd llydan yw'r porth ac eang yw'r ffordd sy'n arwain i ddistryw, a llawer yw'r rhai sy'n mynd ar hyd-ddi. Ond cyfyng yw'r porth a chul yw'r ffordd sy'n arwain i fywyd, ac ychydig yw'r rhai sy'n ei chael”. Mathew 7:13,14.
Iesu “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun achodi ei groes a'm canlyn I”. Mathew 16:24.
Paul “Amlygwch yn eich plith eich hunain yr agwedd meddwl honno sydd, yn wir, yn eiddo i chwi yng Nghrist Iesu. Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio, ond fe'i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol. O'i gael ar ddull dyn, fe'i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau ar groes. Am hynny tra-dyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo'r enw sydd goruwch pob enw”. Philipiaid 2:5-11
Paul “Fe wyddom fod yr hen ddynoliaeth oedd ynom wedi ei chroeshoelio gydag ef, er mwyn dirymu'r corff pechadurus, ac i'n cadw rhag bod, mwyach, yn gaethion i bechod”. Rhufeiniaid 6:6.
Paul “Yr wyf wedi fy nghroeshoelio gyda Christ; a mwyach, nid myfi sy'n byw, ond Crist sy'n byw ynof fi. A'r bywyd yr wyf yn awr yn ei fyw yn y cnawd, ei fyw trwy ffydd yr wyf, ffydd ym Mab Duw, yr hwn a'm carodd i ac a'i rhoes ei hun i farw trosof fi . . . Y mae pobl Crist Iesu wedi croeshoelio'r cnawd ynghyd â'i nwydau a'i chwantau . . . O'm rhan fy hun, cadwer fi rhag ymffrostio mewn dim ond yng nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, y groes y mae'r byd drwyddi wedi ei groeshoelio i mi, a minnau i'r byd”. Galatiaid 2:20; 5:24; 6:14.
Iesu “Dyma'r rhai sy'n . . . wedi golchi eu mentyll a'u cannu yng ngwaed yr Oen”. Datguddiad 7:14.
Bedydd
Y Wers - Mae bedydd yn hanfodol er
iachawdwriaeth. Claddedigaeth mewn dŵr yw bedydd, a gyflawnir gan y rhai sydd
wedi cyfaddef eu hawydd i roi eu hen ffordd o fyw i farwolaeth, a chychwyn
ffordd newydd o fyw yng Nghrist.
Iesu “Gad i hyn fod yn awr, oherwydd fel hyn y mae'n weddus i ni gyflawni popeth y mae cyfiawnder yn ei ofyn . . . Bedyddiwyd Iesu, ac yna, pan gododd allan o'r dŵr . . . dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu”. Mathew 3:15-17.
Iesu “Y sawl a gred ac a fedyddir, fe gaiff ei achub, ond y sawl ni chred, fe'i condemner”. Marc 16:16.
Iesu “Oni chaiff rhywun ei eni o ddŵr a'r Ysbryd ni all fynd i mewn i deyrnas Dduw”. Ioan 3:5.
Pedr “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau . . . Felly bedyddiwyd y rhai a dderbyniodd ei air . . . Yr oeddent yn dyfalbarhau yn nysgeidiaeth yr apostolion ac yn y gymdeithas, yn y torri bara ac yn y gweddïau”. Actau 2:38,41,42.
Y Wers - Dilynwch esiampl bywyd Iesu;
cadw ei orchmynion; cofiwch am ei farwolaeth trwy Torri Bara yn rheolaidd;
peidiwch â chael eu dylanwadu gan bethau'r byd; yn gyson yn edrych ac yn aros
am iddo ddychwelyd i'r ddaear.
Iesu “Os ydych yn fy ngharu i, fe gadwch fy ngorchmynion I . . . Yr wyf yn rhoi i chwi orchymyn newydd: carwch eich gilydd. Fel y cerais i chwi, felly yr ydych chwithau i garu'ch gilydd”. Ioan 14:15; 13:34.
Iesu “Rho dy gleddyf yn ôl yn ei le, oherwydd bydd pawb sy'n cymryd y cleddyf yn marw trwy'r cleddyf”. Mathew 26:52.
Ioan “Peidiwch â charu'r byd na'r pethau sydd yn y byd. Os yw rhywun yn caru'r byd, nid yw cariad y Tad ynddo, oherwydd y cwbl sydd yn y byd, trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau, nid o'r Tad y mae, ond o'r byd”. 1 Ioan 2:15,16.
Paul a Iesu “Oherwydd fe dderbyniais i oddi wrth yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi: i'r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara; ac wedi iddo ddiolch, fe'i torrodd, a dweud, “Hwn yw fy nghorff, sydd er eich mwyn chwi. Gwnewch hyn er cof amdanaf”. Yr un modd hefyd fe gymerodd y cwpan, ar ôl swper, gan ddweud, “Y cwpan hwn yw'r cyfamod newydd yn fy ngwaed i. Gwnewch hyn, bob tro yr yfwch ef, er cof amdanaf.” Oherwydd bob tro y byddwch yn bwyta'r bara hwn ac yn yfed y cwpan hwn, yr ydych yn cyhoeddi marwolaeth yr Arglwydd, hyd nes y daw”. 1 Corinthiaid 11:23-26.
Y Wers - Un diwrnod bydd rhaid i'r
rhai sydd wedi deall eu dyletswydd i Dduw, p'un ag ydynt wedi ei dderbyn neu ei
wrthod, sefyll gerbron yr Arglwydd Iesu Grist, i gael eu bendithio neu eu
gwrthod ganddo. Y tân uffern y mae'r Beibl yn cyfeirio ato, yw dinistrio pethau
sy'n sarhaus yng ngolwg Duw. Fe'i gelwir hefyd yn 'dân tragwyddol' a 'llyn tân'”,
ac mae i'w ddeall yn yr ystyr o ddinistr llwyr, ac nid yn yr ystyr na ddaw i
ben.
Iesu “Bob gair di-fudd a lefara pobl, fe roddant gyfrif amdano yn Nydd y Farn. Oherwydd wrth dy eiriau y cei dy gyfiawnhau, ac wrth dy eiriau y cei dy gondemnio”. Mathew 12:36,37.
Paul “Rhaid i bawb ohonom ymddangos gerbron brawdle Crist, er mwyn i bob un dderbyn ei dâl yn ôl ei weithredoedd yn y corff, ai da ai drwg”. 2 Corinthiaid 5:10.
Daniel "Bydd llawer o'r rhai sy'n cysgu yn llwch y ddaear yn deffro, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i waradwydd a dirmyg tragwyddol”. Daniel 12:2.
Iesu “Llidiodd y cenhedloedd, a daeth dy ddigofaint ac amser barnu'r meirw, a rhoi eu gwobr i'th weision y proffwydi, ac i'r saint ac i'r rhai sy'n ofni dy enw, yn fach a mawr, yr amser i ddinistrio'r rhai sy'n dinistrio'r ddaear”. Datguddiad 11:18.
Paul “A bydd atgyfodiad i'r cyfiawn ac i'r anghyfiawn . . . wrth iddo drafod cyfiawnder a hunanddisgyblaeth a'r Farn oedd i ddod, daeth ofn ar Ffelix”. Actau 24:15,25.
Pedr “Bydd raid iddynt roi cyfrif i'r hwn sydd yn barod i farnu'r byw a'r meirw”. 1 Pedr 4:5.
Iesu “Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, ‘Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd . . . Yna fe ddywed wrth y rhai ar y chwith, ‘Ewch oddi wrthyf, chwi sydd dan felltith, i'r tân tragwyddol a baratowyd i'r diafol a'i angylion”. Mathew 25:31-34,41.
Iesu “Os bydd dy law yn achos cwymp iti, tor hi ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn anafus na mynd, a'r ddwy law gennyt, i uffern, i'r tân anniffoddadwy. Ac os bydd dy droed yn achos cwymp iti, tor ef ymaith; y mae'n well iti fynd i mewn i'r bywyd yn gloff na chael dy daflu, a'r ddau droed gennyt, i uffern. Ac os bydd dy lygad yn achos cwymp iti, tyn ef allan; y mae'n well iti fynd i mewn i deyrnas Dduw yn unllygeidiog na chael dy daflu, a dau lygad gennyt, i uffern, lle nid yw eu pryf yn marw na'r tân yn diffodd”. Marc 9:43-48.
Y Diwedd Gogoneddus
Y Wers - Yr amser pan fydd pobl y
ddaear, a'r ddaear ei hun, yn cael eu llenwi â gogoniant Duw, fel y bwriadodd
Duw yn y Greadigaeth.
I Moses “Cyn wired â'm bod yn fyw a bod gogoniant yr ARGLWYDD yn llenwi'r holl ddaear”. Numeri 14:21.
Samau “O Dduw, rho dy farnedigaeth i'r brenin, a'th gyfiawnder i fab y brenin. Bydded iddo farnu dy bobl yn gyfiawn . . . Bendigedig fyddo'r ARGLWYDD, Duw Israel; ef yn unig sy'n gwneud rhyfeddodau . . . a bydded yr holl ddaear yn llawn o'i ogoniant”. Salm 72:1,2,18,19.
Eseia “Ni wnânt ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd . . . y llenwir y ddaear â gwybodaeth yr ARGLWYDD”. Eseia 11:9.
Habacuc “llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD, fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr”. Hbacuc 2:14.
Paul “Yna daw'r diwedd, pan fydd Crist yn traddodi'r deyrnas i Dduw'r Tad, ar ôl iddo ddileu pob tywysogaeth, a phob awdurdod a gallu. Oherwydd y mae'n rhaid iddo ef ddal i deyrnasu nes iddo osod ei holl elynion dan ei draed. Y gelyn olaf a ddilëir yw angau”. 1 Corinthiaid 15:24-26.
Iesu “Bwriwyd Marwolaeth a Hades i'r llyn tân; dyma'r ail farwolaeth, sef y llyn tân . . . Wele, y mae preswylfa Duw gyda'r ddynoliaeth; bydd ef yn preswylio gyda hwy, byddant hwy yn bobloedd iddo ef, a bydd Duw ei hun gyda hwy, yn Dduw iddynt. Fe sych bob deigryn o'u llygaid hwy, ac ni bydd marwolaeth mwyach, na galar na llefain na phoen. Y mae'r pethau cyntaf wedi mynd heibio”. Datguddiad 20:14; 21:3-4.












No comments:
Post a Comment