Thursday, January 26, 2023

Wybren goch yn y bore

 

Mae yna ddywediad adnabyddus yn Prydain Fawr sy’n ceisio rhagweld sut fydd y tywydd yfory. Mae'n seiliedig ar ffenomenon y mae pobol wedi sylwi ers cyn cof ac mae rhywfaint o dystiolaeth wyddonol bod hyn yn wir. Y dywediad yw: “Awyr goch yn y nos, hyfrydwch bugeiliaid. Awyr goch yn y bore, rhybudd bugeiliaid!”

Cyfeiriodd Iesu at y math hwn o ragolygon tywydd pan ofynnwyd iddo gan y Phariseaid a’r Sadwceaid i ddarparu arwydd o’r nef a fyddai’n cadarnhau ei hawliad ei fod yn Fab Duw, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’ Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau . . . ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona” (Mathew 16:2-4).

Roedd Iesu wedi rhoi arwydd iddyn nhw cyn hyn i wylio amdano, sef arwydd y proffwyd Jona, “Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos” (Mathew 12:40).

Byddai rhywun wedi meddwl y byddai’r holl wyrthiau o iachâd a gyflawnwyd gan Iesu yn ystod ei tair blynedd o weinidogaeth wedi bod yn ddigon prawf, fod yn wir yn Fab Duw ac yn siarad ar ran Duw. Ond yr oedd arnynt eisiau arwydd mwy dramatig i brofi ei allu a'i darddiad dwyfol, a byddai yr arwydd hwnnw yn cael ei ddarparu, pa fyddent yn ei wrando nei peidio.

Daeth y prawf diamheuol fod Iesu yn Fab Duw gyda'i atgyfodiad oddi wrth y meirw. Dyma beth roedd Iesu yn cyfeirio ato trwy gyfeirio at Jona. Gan fod Jona y tu mewn i'r pysgodyn mawr am dri diwrnod a thair noson, felly byddai Iesu yn y bedd am dri diwrnod a thair noson ac yna yn cael ei godi'n fyw eto. Pan aeth Jona yn y diwedd i Ninefe i lefaru Gair Duw wrth y pobol, edifarhaodd y trigolion am eu ffyrdd drygionus a chawsant eu hachub rhag barnau Duw a lefarwyd yn eu herbyn.

Ond rhoddodd Iesu arwyddion i wylio amdano, i pobol oedd yn byw o'r amser hwnnw ymlaen, fel y byddent yn gwybod pryd i ddisgwyl iddo ddychwelyd i'r ddaear, “Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr. Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd. A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr. Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosáu” (Luc 21:25-28).

Mae’r arwyddion mae Iesu yn eu rhoi yn Luc 21 yn crynhoi’r union fyd rydyn ni yn byw ynddo nawr – ac felly mae’n rhaid i Iesu ddychwelyd yn fuan. Mae'r arwyddion yn sôn am fyd mewn terfysg, ansefydlogrwydd ac ofn, yn effeithio ar fywydau pobol yn fyd-eang. Mae hyn yn wir am y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw, p'un a ydym yn meddwl am economïau'r byd, yr holl broblemau sy'n gysylltiedig â chynhesu byd-eang, am ryfeloedd ac aflonyddwch, neu'r llygredd cynyddol yn yr amgylchedd - mae'n ymddangos nad oes ateb dynol i unrhyw un ohonynt. Dim ond ymyrraeth Duw all ddatrys y problemau hyn a rhoi diwedd ar gamreolaeth dyn o'r byd yr ydym yn byw ynddo.

Bydd dychweliad Iesu i’r ddaear i sefydlu rheolaeth Duw yn y byd, yn dod â’r holl ddrygioni hyn i ben a sefydlu heddwch a thegwch yr ydym i gyd yn hiraethu drosodd. Ond beth fydd ein hymateb i’r arwyddion mae Iesu yn eu rhoi inni yng Ngair Duw?

A fydd ein hymateb ni fel un y Phariseaid a’r Sadwceaid a wrthododd yn ystyfnig i gael eu darbwyllo o bwy oedd Iesu ac iddo siarad dros Dduw, neu yn debyg i ymateb y Ninefeaid a wrandawodd ar neges Duw trwy Jona, ac a edifarhaodd fel roedd Duw yn galw am?

Mae gwers Iesu i ni yn glir fel y mae gwers Jona. Ceisiwch yn awr ffordd Duw o edifeirwch cyn i farnau Duw gael eu gweithredu ar y ddaear.

Michael JP Morgan.


Friday, December 30, 2022

Tystiolaeth dros Ffydd

 

Dychmygwch gael sgwrs gyda'ch meddyg am driniaeth bosibl, pa un o'r ddau sylw canlynol y byddai yn well gennych chi ei glywed? “Rydyn ni yn gyson wedi ei wneud felly ac rwy’n meddwl y bydd yn gweithio” neu “Ar y cyfan mae’r ymchwil a wnaed ar pobol fel chi yn dangos bod siawns uchel o lwyddo”.

Flynyddoedd yn ôl, roedd llawer o ymarfer meddygol yn seiliedig ar gred draddodiadol heb fawr o sail mewn ymchwil wyddonol. Y dyddiau hyn mae gweithwyr proffesiynol i fod i ddefnyddio'r dystiolaeth orau gyfredol a wedi ei llywio gan ymchwil berthnasol.

Mae’r sefyllfa yn dra gwahanol pan fyddwn yn ystyried y dystiolaeth ar gyfer credoau crefyddol, a elwir yn athrawiaeth neu ddysgeidiaeth.

Gallem ddilyn traddodiadau neu argyhoeddiadau personol; ond os credwn fod y Beibl yn Air ysbrydoledig Duw, ac heb gamgymeriad, ni ddylem edrych yn unman arall am athrawiaeth. Fel yr ysgrifennodd yr apostol Paul yn 2 Timotheus 3:16, “Y mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder”.

Nid oes amheuaeth ynghylch “ansawdd” y dystiolaeth o’r Beibl, meddai’r apostol: mae ei eiriau i gyd yn wir. Ar ben hynny, nid oes rhaid i ni chwilio am gyfnodolion neu adroddiadau aneglur mewn ieithoedd tramor i ddod o hyd i'r dystiolaeth - mae'r cyfan mewn un llyfr a gall y rhan fwyaf o pobol bellach i ddarllen yn mamiaith eu hunain.

Serch hynny, mae'n bwysig astudio'r dystiolaeth yn ofalus. Nid yw yn ddoeth seilio dysgeidiaeth ar un darn. Mae'n bwysig gwirio bod unrhyw ddefnydd o ddarn yn gyson â darnau eraill ar yr un pwnc. Mae hyn er mwyn gwirio bod ein dealltwriaeth yn gywir.

Mae hefyd yn bwysig archwilio cyd-destun darn. Nid oes yr un ohonom yn hoffi cael ein dyfynnu allan o'r cyd-destun. Yn achos llys Iesu, honnodd tystion ffug fod Iesu wedi dweud y byddai’n dinistrio ac yn ailadeiladu’r deml Iddewig, fel y cofnodwyd ym Marc 14:58. Ond mae’r testun yn Ioan 2:19-21 yn ei gwneud hi’n glir, bod Iesu wedi bod yn sôn am “deml ei gorff”, ac felly am ei atgyfodiad.

Mae Duw yn ein sicrhau yn ei Air y Beibl, ei fod Ef wedi ysbrydoli dynion i lefaru ac i ysgrifennu Ei air er ein dysgu (2 Tim.3:16), a fel y dywed Ef yn 2 Pedr 1:20,21, “Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r Ysgrythur yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobol oeddent a lefarodd air oddi wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân”.

Mae yr un mor bwysig peidio â newid y geiriau i gyd-fynd â'n meddwl neu'n dysgeidiaeth ein hunain. Roedd Iesu’n feirniadol iawn o’r Phariseaid a oedd wedi disodli cyfraith Duw â eu rheolau eu hunain, fel y mae yn nodi yn Mathew 15:3, "A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?”

Mae rhai amheuwyr yn dadlau, y gallwch chi brofi unrhyw beth rydych chi yn ei hoffi o'r Beibl. Ond os yw yn bwysig cael meddyg i wirio yr dystiolaeth ymchwil er mwyn ein lles presennol; yn bwysicach fyth yw gwirio'r dystiolaeth Ysgrythurol am ein credoau, er mwyn ein lles tragwyddol.

Thursday, December 1, 2022

Mae Iesu i Deyrnasu fel Brenin

 

Bydd y rhan fwyaf o’r byd Cristnogol yn dathlu genedigaeth Iesu Grist ar ddiwedd Rhagfyr, ond heb sylweddoli ei arwyddocâd llawn, a’i fod yn ddychwelyd i’r ddaear i deyrnasu fel Brenin dros holl genhedloedd y ddaear, fel y mae y blog hyn yn ddangos.

Cyn i Iesu gael ei eni, roedd llawer o pobol yn gwybod am ei eni ac yn ei ddisgwyl, oherwydd roedd Duw wedi rhagfynegi ohono yn ei Air y Beibl, gannoedd lawer o flynyddoedd cyn ei eni; hefyd lle yr oedd i gael ei eni, ac roedd i fod yn Frenin. Dyma sut roedd y doethion a ddaeth o'r dwyrain (ystyrir i fod yn Iran heddiw), yn gallu bod yn bresennol yn ei enedigaeth.

Mae efengyl Mathew yn ein hysbysu, “Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.” A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni. Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd: A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel” (Mathew 2:1-6).

Cyn i Iesu gael ei eni, dywedodd yr angel Gabriel wrth ei fam Mair y byddai'n beichiogi a chael mab, a fyddai ef yn Frenin, “Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd” (Luc 1:32,3).

Pan cwrddodd Iesu gyntaf â Nathanael, a oedd i ddod yn ddisgybl iddo, dywedodd Nathanael wrth Iesu, “Rabbi,” meddai Nathanael wrtho, ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel” (Ioan 1:49).

Pan farchogodd Iesu i Jerwsalem ar Sul y Blodau gwaeddodd y pobol, “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel” (Ioan 12:13).

Pan ddygwyd Iesu gerbron Pilat (Llywodraethwr Rhufeinig), gofynnodd iddo, “Yr wyt ti yn frenin, ynteu? Ti sy'n dweud fy mod yn frenin, atebodd Iesu. Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd” (Ioan 18:37). Ysgrifennodd Pilat arwydd a roddwyd ar y groes, “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon” (Ioan 19:19).

Pan atgyfodwyd Iesu oddi wrth y meirw, siaradodd â'i ddisgyblion am y pethau sy'n ymwneud â theyrnas Dduw, a'r cwestiwn olaf iddo oedd, “Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” (Actau 1:6) Rhaid i deyrnas, trwy ddiffiniad, gael Brenin.

Dywedodd Iesu ohono'i hun, y byddai'n llywodraethu ar yr holl genhedloedd, pan y ddaw eto, “Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd” (Mathew 25:31-34).

Mae y flaenorol yn dangos bod Duw yn gallu rhagweld y dyfodol. Fe gwnaeth y peth yn amlwg ymlaen llaw, pryd y gallai pobol ddisgwyl ymddangosiad cyntaf Ei Fab. Mae Efe hefyd yn rhagfynegi am ail ymddangosiad Iesu (sydd eto yn y dyfodol), fel y gall pobol baratoi eu hunain ar gyfer dychweliad ei Fab i’r ddaear, er mwyn iddynt trwy ras, gael rhan yn Ei Deyrnas fyd-eang, dan rheolaeth yr Arglwydd Iesu Crist fel ei Brenin.

Yn Ei Air, mae Duw wedi rhoi llawer o ragfynegiadau ynghylch pryd i ddisgwyl ail ymddangosiad Crist i’r ddaear, sy’n arwain Cristedelphiaid i gredu ei fod ar fin digwydd.

Wednesday, November 2, 2022

A oes na Dduw o Drygioni?

Pan fyddwn yn wynebu temtasiwn ac yn gorfod dewis rhwng da a drwg, a phan fyddwn yn dewis gwneud drwg, pwy sydd ar fai? A ydym ni ar fai yn gyfan gwbl? Neu'r diafol? Neu a yw'n dipyn o'r ddau?

Mae’r Beibl yn dysgu’n glir bod angen inni feddwl am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain, a bod Duw yn caniatáu inni ddewis gwneud yr hyn sy’n dda neu’r drwg. Fodd bynnag, os yw ffordd Duw yn wahanol i’n ffordd ni, a ninnau’n mynd i’r cyfeiriad anghywir, pwy sydd ar fai? Os yw Duw yn ein hannog trwy’r Beibl, i wneud y peth iawn, a ninnau’n dewis y peth anghywir, beth a’n hysgogodd i wrthryfela a mynd ein ffordd ein hunain, mewn geiriau eraill i gyflawni pechod? Felly, mae angen inni ystyried o ble y daw pechod, y ddylanwad a all arwain at droseddu.

Yn y Beibl defnyddir y geiriau Diafol a Satan. Ai bod dynol yw hwn, neu ynteu angel syrthiedig? Yn wyneb cwestiynau fel hyn, mae angen inni archwilio’r Beibl yn ofalus, oherwydd mae Duw weithiau’n defnyddio iaith ffigurol i wneud y gwersi’n fwy pwerus a thrawiadol. A allai fod wrthwynebydd i Dduw allan yna, sy'n ceisio dylanwadu ar pobol trwy ei ddrygioni?

Mae’r Beibl yn dweud wrthym yn glir mai Adda oedd yn gyfrifol am ddod â phechod i’r byd: “Ein dadl yw hyn. Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu . . . gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn” (Rhufeiniaid 5:12,19).

Ym mhennod 3 Genesis, lle digwyddodd y cofnod o’r digwyddiadau y soniwyd amdanynt yn yr adnodau blaenorol, nid oes cyfeiriad at y Diafol na Satan, dim ond at Adda ac Efa a gafodd eu temtio i fod yn anufudd i Dduw gan sarff, a gafodd ei gosbi wedyn am ei chyfrwysdra.

Hefyd, yn y pum llyfr cyntaf o'r Hen Destament, Genesis i Deuteronomium, nid oes sôn ynddynt ychwaith am ddiafol goruwchnaturiol personol, ond yn hytrach y dewisiad a osodwyd o flaen plant Israel fe daeth trwy Moses.

Yn pumed llyfr y Beibl, llyfr Deuteronomium, yr her a osododd Moses gerbron cenedl Israel oedd: “Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith: bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw; ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod” (Deut.11:26-28).

Yr oedd bendith am ddilyn Duw, a dialedd pe baent yn dewis dilyn duwiau eraill, nad oeddent yn dduwiau o gwbl ond yn eilunod. Gwnaethpwyd yr her honno eto, i’r Israeliaid hynny a aeth i Wlad yr Addewid: “Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni: Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt; Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi” (Deut.30:15-18).  

Sylwch, yn Deuteronomium 11 a 30, [1] mai Moses sy'n cynnig dewis i'r pobol wneud da neu ddrwg, ac nid duw llai, neu Satan personol, na ei weision; [2] mai mater i'r pobol oedd dewis gwneud da neu ddrwg; [3] os oedden nhw'n dewis gwneud drwg, roedd hynny o ganlyniad o ei “calonnau'n troi i ffwrdd ac yn cael eu tynnu i ffwrdd i addoli a gwasanaethu duwiau eraill”.

Byth ers i Adda droseddu, mae pobl wedi bod yn dueddol o wneud yr hyn sy'n ddrwg, ac yn gorfod gwneud ymdrech i wneud yr hyn y mae Duw yn eisiau i ni wneud, y mae'r proffwydi a'r Arglwydd Iesu yn cytuno a hwn: ““Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?” (Jeremeia 17:9). “Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun” (Marc 7:21-23). Ond mae na gwellhad a chymorth wrth law.

Yn y salm hiraf yn Llyfr y Salmau, darllenwn y geiriau hyn: “Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg, er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw” (Salm 119:115). Roedd y Salmydd yn ymwybodol o'r perygl, y byddai pobol o'r fath yn ceisio ei dynnu oddi wrth Dduw a'i ffyrdd, a cheisio dylanwadu arno i ddilyn eu ffyrdd anghyfiawn. Ond gwyddai am ffordd i wrthweithio eu dylanwad: “Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr . . Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo ac yn rhoi deall i'r syml” (Salm 119:105,130).

Roedd y salmydd ysbrydoledig yn gwybod beth oedd yr Arglwydd Iesu i’w ymarfer yn ddiweddarach, y gall rhoi sylw dyddiol i Air Duw ein cadw ni yn ddiogel a’n helpu i oresgyn pa bynnag demtasiwn sy’n ein hwynebu, oherwydd mewn ateb i bob temtasiwn, dyfynnodd Iesu orchmynion Duw gyda’r geiriau, “Y mae'n ysgrifenedig” (Mathew 4:4,6,7,10), ac ni ildiodd I pechod unwaith.

Mae yr holl adnodau blaenorol yn pwyntio at y ffaith nad yw y diafol yn ysbryd drwg goruwchnaturiol, nac yn dduw drwg o allu dirfawr ; ond yn hytrach yr anogaeth ddrwg sydd yn dod naill ai o'r tu fewn i ni ein hunain, neu oddiwrth pobol ereill, sydd yn ceisio dylanwadu arnom i wneuthur pethau nad yw Duw yn eu cymeradwyo.

Ysgrifennodd yr apostol Ioan am y dylanwad hwn pan rhybuddiodd: “Oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd. Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth” (1 Ioan 2:16,17).

Felly, nid oes yr un Duw holl-bwerus o drygioni, ond y mae Duw holl-bwerus o dda, sydd am inni wrthsefyll yr hyn sy'n drwg a dilyn yr hyn sy'n iawn, er ein lles tragwyddol.

 

 

 

 

 

 

Saturday, October 1, 2022

Atgyfodiad Iesu.

 

Sail Cristnogaeth yw, bod yr Arglwydd Iesu Grist yn Mab Duw ac ar ôl rhoi ei einioes yn aberth dros bechod, fe’i cyfodwyd oddi wrth y meirw a’i gymryd i fyny i’r nef i fod gyda’i Dad.

Os na ddigwyddodd yr atgyfodiad, mae Cristnogaeth yn grefydd amherthnasol. Cydnabodd y pobol a ddilynodd Cristnogaeth yn y Ganrif Gyntaf AD y ffaith hon, a buont yn ei drafod sawl gwaith (mae’r adroddiad mwyaf manwl yn 1 Corinthiaid pennod 15).

Mae’r Efengylau’n cofnodi sut, dridiau ar ôl i Iesu gael ei croeshoelio, yr aeth rhai o’i ddilynwyr at ei fedd, dim ond i’w ddarganfod yn wag. Yno gwelsant angylion a ddywedodd wrthynt ei fod wedi atgyfodi. Nid oeddent yn argyhoeddedig ar y dechrau ond roeddent yn y pen draw.

Gwelodd llawer o honynt ef yn fyw ar ol ei adgyfodiad - pum cant ar unwaith ar un adeg. Ymddangosodd ei hun hefyd i wahanol bobl ar wahanol adegau ac amseroedd, i fwyta pryd o fwyd gyda nhw a thrafod sut roedd yr Hen Destament yn dangos ei fod i gael ei roi i farwolaeth, fel y gallai ddinistrio pŵer pechod a marwolaeth. Gyfarwyddodd ei ddisgyblion i fynd allan i bregethu’r newyddion da am ei atgyfodiad ac egluro ei oblygiadau i pobol.

Pan feddyliwch am y peth, roedd cymaint o pobol yn gysylltiedig â marwolaeth a chladdu Iesu, fel bod unrhyw gamgymeriad amdano yn marw, yn amhosibl mewn gwirionedd. Roedd milwyr Rhufeinig yn bresennol ar adeg ei farwolaeth ac wedi cadarnhau ei fod wedi marw. Honnodd gelynion Iesu fod y disgyblion wedi cymryd y corff (ond nid oeddent byth wedi awgrymu nad oedd wedi marw).

Heblaw hynny, ni allent gynhyrchu ei gorff, a beth bynnag, gyda filwyr Rhufeinig yn gwarchod yr ogof y claddwyd Iesu ynddi, sut y gallai unrhyw un fod wedi tynnu'r garreg enfawr i ffwrdd a oedd yn  selio yr ogof, heb gael ei herio?

Y newyddion da yw bod yr Arglwydd Iesu Grist yn fyw am byth, mewn iechyd perffaith ac yn byw gyda'i Dad yn y nefoedd. Pam ddylai hynny fod yn bwysig i chi a fi? Mae tri rheswm am hyn :-

[1] Trwy gysylltu ein hunain â marwolaeth ac atgyfodiad Iesu, trwy credu ynddynt a cael ein bedyddio, gallwn cael maddeuant am ein pechodau, a dod yn rhan o deulu Duw. [2] Trwy addo i dilyn esiampl Iesu yn ein bywyd, rydyn ni'n dod yn frawd neu'n chwaer i Iesu, ac yn cael y sicrwydd, pan fyddwn ni'n marw, y byddwn ni'n codi o farwolaeth ar ddychweliad yr Arglwydd Iesu i'r ddaear. [3] Yn y cyfamser gallwn fyw yn yr hyder, trwy ein wasanaeth ffyddlon a gras Duw, o gael ein harwisgo â chyfiawnder a bywyd tragwyddol gan yr Arglwydd Iesu ar ei ddychweliad.

 https://www.facebook.com/gwirioneddigymru

 

Tuesday, August 2, 2022

Yr luddewon yn Pwrpas Duw.

 

Duw, yn siarad trwy ei broffwyd Eseia am Israel, dwedodd - “Chwi yw fy nhystion,  medd yr ARGLWYDD … er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof … mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy ôl” (Eseia 43:10).

Prif bwrpas Duw yw llenwi’r ddaear â’i Ogoniant (Numeri 14:21). Dewisodd yr Iddewon, disgynyddion Abraham, i chwarae rhan arbennig wrth sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

Dywedwyd wrth Abraham y byddai holl deuluoedd y ddaear yn cael eu bendithio trwyddo ef. Daeth disgynnydd Abraham, yr Arglwydd Iesu Grist –a oedd yn Iddew – â hynny i fodolaeth, trwy dynnu pechod i ffwrdd trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad.

Roedd gan y genedl Iddewig ran hanfodol i’w chwarae wrth gyflawni cynllun Duw. Roeddent i fod yn dystion i fodolaeth Duw ac, fel cenedl, i fyw yn y fath fodd a fyddai’n dangos daioni a gras Duw i’r holl genhedloedd. I helpu hyn i ddigwydd cafodd Moses cyfreithiau gan Dduw. Trwy gadw’r cyfreithiau hynny, byddair Iddewon yn adlewyrchu gogoniant a chyfiawnder Duw drostynt eu hunain ac eraill. Yn anffodus, mae hanes yr Hen Destament yn dangos na wnaethant gyflawni eu rhan o'r cynllun yn iawn. Daethant yn enghreifftiau mor wael nes i Dduw eu symud, am 70 mlynedd o Israel i Fabilon (BC586-BC516).

Dywedodd Duw y byddai'n alltudio'r pobol am eu anufudd-dod, ond dim ond am ychydig ac y byddai hefyd yn eu casglu a'u hadfer i'w gwlad. Mae’r Testament Newydd yn rhoi’r un neges (Luc 21:24 a Rhufeiniaid 11:25-27).

Ail-gasglwyd y genedl i'r wlad ar ddiwedd y cyfnod Babilonaidd ac eto yn 1948. Roedd y cydgasgliad diweddaraf hwn ar ôl alltud a barhaodd am bron i 2000 o flynyddoedd, alltud a oedd yn cyd-fynd â gwrth-Semitiaeth gyson ac echrydus ac ymdrechion ffiaidd i ddinistrio nhw.

Mae bodolaeth barhaus yr Iddewon ar ôl y fath amgylchiadau, yn dystiolaeth rymus i fodolaeth Duw, ac i'r ffaith Ei fod bob amser yn cadw Ei addewidion.

Mae'r Beibl hefyd yn dweud bod ail-sefydlu Wladwriaeth Israel yn rhagflaenydd i ddychwelyd yr Arglwydd Iesu Grist i'r ddaear, gan fod Iesu i ddychwelyd i Jerwsalem. Yna bydd yn cymryd drosodd rheolaeth y ddaear, trwy sefydlu Teyrnas Dduw, ac yn raddol yn dileu pechod a marwolaeth ac yn gwneud y ddaear yn baradwys unwaith eto. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau cyflawniad o ogoniant Duw i lenwi'r ddaear, yn union fel y mae Ei wedi addo.

Mae'r Iddewon wedi credu trwy gydol eu hanes y byddai Duw yn anfon Meseia atynt. Gall y Meseia Iddewig hwn fod yn Waredwr i ni i gyd. Iesu oedd, ac yw, y Meseia hwnnw.

Heddiw mae’r genedl Iddewig wedi cael ei hadfer gyda Jerwsalem yn brifddinas iddi, ond nid yw rhan y pobol Iddewig ym mhwrpas Duw wedi ei chwblhau eto.

Cymerwch sylw ar bobl Israel a'r Iddewon ledled y byd. Tystionant o hyd i fodolaeth Duw a dyfodiad sicr ein Hiachawdwriaeth, ar ddychweliad yr Arglwydd lesu Grist i'r ddaear.

Thursday, June 30, 2022

Nid aur yw'r cyfan sy'n disgleirio.

 


Mae'r dywediad oesol hwn yr un mor wir heddiw â phan gafodd ei fynegi gyntaf. Mae yna fetel o'r enw pyrites haearn sy'n disgleirio yng ngolau'r haul, ond nid dyna'r peth go iawn. Fe’i gelwir yn “aur ffŵl” ac nid yw o’r un gwerth ag aur go iawn.

Mae'r dywediad wedi dod i fod yn berthnasol i unrhyw beth sy'n edrych yr un mor ddeniadol, ond nad yw mewn gwirionedd mor werthfawr nac mor proffidiol ag y gallai ymddangos ar yr olwg gyntaf. Mae pobol mor fedrus wrth wneud i bethau edrych yn ddeniadol y dyddiau hyn fel y gallwn gael ein twyllo'n hawdd gan rywbeth sy'n edrych yn dda er y gall y deunyddiau a ddefnyddir fod yn rhad ac yn israddol. Mae cynhyrchion o'r fath yn edrych yn hyfryd am gyfnod byr, ond nid ydynt yn para. Ac mae llawer o bethau eraill yn ddim ond copïau, neu yn ffug,  neu yn efelychiadau.

Mae hyn yr un mor wir yn y byd ysbrydol ag yn y byd materol. Mae llawer o ffyrdd o feddwl a ffyrdd o fyw yn ymddangos yn ddeniadol i ni, ond mae'r mwynhad ohonynt yn gyfyngedig a thros dro. Mae rhagweld yn aml yn well na sylweddoli a gall y pleser a geir fod yn fyrhoedlog.

Yr hyn yr hoffem i gyd yw ansawdd bywyd a fydd yn para. Mae ein pleserau yn y bywyd hwn mor fyrhoedlog. Mae ieuenctid ar ben yn fuan ac mae cryfder corfforol yn lleihau.

O lyfr Genesis, rydyn ni'n dysgu nad yw popeth sy'n apelio at ein natur cnawdol yn dda i ni. Cymerodd Efa y ffrwyth gwaharddedig a dioddefodd hi ac Adda ganlyniadau anufuddhau i orchymyn Duw. Trwy'r weithred honno o anufudd-dod y daeth pechod, dioddefaint a marwolaeth i'r byd: “Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu” (Rhufeiniaid 5:12).

Gair Duw yw’r mesur gwirioneddol o’r hyn sy’n werthfawr a’r hyn nad yw’n werthfawr. Oherwydd, cyngor cadarn Duw yn unig a ddaw â’r hapusrwydd a ddymunwn, y tawelwch meddwl yn awr i ni, a bywyd am byth yn Nheyrnas Dduw. Ysbrydolwyd llawer o ysgrifenwyr y Beibl i fynegi’r gwirionedd hwn.

https://www.facebook.com/gwirioneddigymru


Cymharodd Job ddoethineb ag aur: 

Job 28:12-17

“Pa le y ceir doethineb? 

a pha le y mae trigfan deall? . . . 

Ni ellir cymharu ei gwerth ag aur neu risial,

na'i chyfnewid am unrhyw lestr aur” 

Roedd y Brenin Dafydd yn gwerthfawrogi barnau Duw yn fwy dymunol nag aur: “y mae ofn yr ARGLWYDD yn lân, yn para am byth; y mae barnau'r ARGLWYDD yn wir, yn gyfiawn bob un. Mwy dymunol ydynt nag aur, na llawer o aur coeth” (Psalm 19:9,10).

Cymerodd awdur y Diarhebion ddoethineb fel un o’i themâu hefyd, pan ddywedodd: “Gwyn ei fyd y sawl a gafodd ddoethineb, a'r un sy'n berchen deall Y mae mwy o elw ynddi nag mewn arian, a'i chynnyrch yn well nag aur” (Diarhebion 3:13,14).

Gallwch ddarganfod yr aur hwn drosoch eich hun trwy ddarllen eich Beibl a’i ystyried yn weddigar.

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...