Mae dillad yn chwarae rhan bwysig yn ein bywydau, a dyna pam mae'r diwydiant dillad yn gwario cymaint o arian ar hysbysebu. Maent yn dangos bobol o bob oed yn gwisgo eu brand o ddillad, wedi'u gwisgo'n briodol ar gyfer pob achlysur.
Sut rydym yn gyflwyno ein hunain, yn enwedig pan fyddwn yn cwrdd â
rhywun am y tro cyntaf, gall gael effaith barhaol ac o bosibl yn gostus iawn
hefyd. Os byddwn yn mynd am gyfweliad swydd ac rydym yn troi i fyny mewn
trowsus loncian a siwmper brwnt, yna rydym yn cyflwyno ein hunain fel rhywun na
all fod yn drafferthus i wneud yr ymdrech. Ac yn codi'r cwestiwn ym meddwl y
cyfwelydd, "a fyddai person o'r fath yn helpu ein busnes i llwyddo"?
Mae rhagolygon person o'r fath wedi cael ei leihau gan eu diffyg ymdrech.
Dyma pam mae'r diwydiannau manwerthu a lletygarwch yn gwario cymaint o arian ar y wisg mae eu gweithwyr yn gwisgo, er mwyn sicrhau bod yr argraff gyntaf y mae y cyhoedd yn cael am ei frand yw un cadarnhaol.
Mae dillad yn rhan bwysig o'n bywyd ac mae hefyd yn gorchuddio ein
noethni.
Mae'r rhai sydd wedi cael eu bedyddio I fewn I Iesu Grist yn nawr yn
gwisgo "wisgoedd iachawdwriaeth" - roedd eu pechodau yn gwneud nhw yn
noeth yn llygaid Duw, ond trwy Grist mae eu pechodau wed cael eu gorchuddio: “Llawenychaf
yn fawr yn yr ARGLWYDD, gorfoleddaf yn fy Nuw; canys gwisgodd amdanaf wisgoedd
iachawdwriaeth, taenodd fantell cyfiawnder drosof” (Esaia 61:10).
Mae ein "dillad
iachawdwriaeth" wedi cael ei ddarparu i ni am ddim, ac yn cael y fraint i
wisgo dillad llysgennad Crist: “Felly cenhadon dros Grist ydym ni, fel pe bai Duw yn
apelio atoch trwom ni. Deisyf yr ydym dros Grist, cymoder chwi â Duw. Ni wybu
Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod drosom ni, er mwyn i
ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef. (2 Corinthiaid 5:20,21).
Mae ein dillad i fod o ostyngeiddrwydd a pharch yn ein gwasanaeth i
Dduw: “Yn yr un modd, chwi wŷr ifainc, ymostyngwch i'r henuriaid. A phawb
ohonoch, gwisgwch amdanoch ostyngeiddrwydd yng ngwasanaeth eich gilydd,
oherwydd, fel y dywed yr Ysgrythur: “Y mae Duw'n gwrthwynebu'r beilchion, ond
i'r gostyngedig y mae'n rhoi gras”. Ymddarostyngwch, gan hynny, dan law gadarn
Duw, fel y bydd iddo ef eich dyrchafu pan ddaw'r amser. Bwriwch eich holl
bryder arno ef, oherwydd y mae gofal ganddo amdanoch”. (1 Pedr 5:5-7).
Yn union fel y mae ein labeli dillad corfforol yn dweud wrthym sut i
lanhau a dileu staenio, mae gan ein dillad ysbrydol reolau tebyg.
Mae bywyd llysgennad a disgybl Crist yn cael ei adlewyrchu yn ein
"dillad cyfiawnder", felly mae'n hanfodol ein bod bob amser yn cynnal
lefel uchel o ofal a pharch atynt, ac ein bod bob amser yn adlewyrchu'r un yr
ydym yn wasanaethu yn y golau gorau posibl.
Ond gall ein dillad ysbrydol fod yn flêr ac yn llac fel y mae ein ffydd
yn mynd trwy gyfnodau hawdd ac anodd. Felly mae angen i ni wirio ein
hymddangosiad yn rheolaidd yn y drych o Gair Duw, i wneud yn siŵr bod ein
"gwisgoedd cyfiawnder" yn cael gofal da ac yn cael eu cynnal yn unol
â'u manylebau.
Mae angen i ni hefyd olchi ein hunain gyda gair Duw; i'w ddarllen, i fyfyrio arno; I weddïo dros nerth i gerdded y llwybr cul hwnnw nad yw bob amser yn hawdd cerdded, hynna gyda gras Duw, efallai y bydd gennym le yn ei deyrnas.
Yna bydd ein "dillad ysbrydol" o gyfiawnder a ffydd yn
disgleirio allan heb unrhyw ddiffygion o gwbl i'w haddewid llawn, a i gogoniant
Duw hefyd: “Y sawl
sy'n gorchfygu, gwisgir hwnnw yn yr un modd mewn gwisgoedd gwynion, ac ni
thorraf byth ei enw allan o lyfr y bywyd, a chyffesaf ei enw gerbron fy Nhad a
cherbron ei angylion ef” (Datguddiad
3:5).
Troednodyn [1] – Daw’r dyfyniadau a ddefnyddiwyd yn y blog hwn o Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig
(BCND) 2004 oni nodir yn wahanol.
Troednodyn [2] - Ar gyfer fersiwn Saesneg y post hon cliciwch yma
No comments:
Post a Comment