Thursday, January 26, 2023

Wybren goch yn y bore

 

Mae yna ddywediad adnabyddus yn Prydain Fawr sy’n ceisio rhagweld sut fydd y tywydd yfory. Mae'n seiliedig ar ffenomenon y mae pobol wedi sylwi ers cyn cof ac mae rhywfaint o dystiolaeth wyddonol bod hyn yn wir. Y dywediad yw: “Awyr goch yn y nos, hyfrydwch bugeiliaid. Awyr goch yn y bore, rhybudd bugeiliaid!”

Cyfeiriodd Iesu at y math hwn o ragolygon tywydd pan ofynnwyd iddo gan y Phariseaid a’r Sadwceaid i ddarparu arwydd o’r nef a fyddai’n cadarnhau ei hawliad ei fod yn Fab Duw, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’ Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau . . . ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona” (Mathew 16:2-4).

Roedd Iesu wedi rhoi arwydd iddyn nhw cyn hyn i wylio amdano, sef arwydd y proffwyd Jona, “Oherwydd fel y bu Jona ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y ddaear am dri diwrnod a thair nos” (Mathew 12:40).

Byddai rhywun wedi meddwl y byddai’r holl wyrthiau o iachâd a gyflawnwyd gan Iesu yn ystod ei tair blynedd o weinidogaeth wedi bod yn ddigon prawf, fod yn wir yn Fab Duw ac yn siarad ar ran Duw. Ond yr oedd arnynt eisiau arwydd mwy dramatig i brofi ei allu a'i darddiad dwyfol, a byddai yr arwydd hwnnw yn cael ei ddarparu, pa fyddent yn ei wrando nei peidio.

Daeth y prawf diamheuol fod Iesu yn Fab Duw gyda'i atgyfodiad oddi wrth y meirw. Dyma beth roedd Iesu yn cyfeirio ato trwy gyfeirio at Jona. Gan fod Jona y tu mewn i'r pysgodyn mawr am dri diwrnod a thair noson, felly byddai Iesu yn y bedd am dri diwrnod a thair noson ac yna yn cael ei godi'n fyw eto. Pan aeth Jona yn y diwedd i Ninefe i lefaru Gair Duw wrth y pobol, edifarhaodd y trigolion am eu ffyrdd drygionus a chawsant eu hachub rhag barnau Duw a lefarwyd yn eu herbyn.

Ond rhoddodd Iesu arwyddion i wylio amdano, i pobol oedd yn byw o'r amser hwnnw ymlaen, fel y byddent yn gwybod pryd i ddisgwyl iddo ddychwelyd i'r ddaear, “Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru ac ymchwydd y môr. Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd. A'r pryd hwnnw gwelant Fab y Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr. Pan ddechreua'r pethau hyn ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn agosáu” (Luc 21:25-28).

Mae’r arwyddion mae Iesu yn eu rhoi yn Luc 21 yn crynhoi’r union fyd rydyn ni yn byw ynddo nawr – ac felly mae’n rhaid i Iesu ddychwelyd yn fuan. Mae'r arwyddion yn sôn am fyd mewn terfysg, ansefydlogrwydd ac ofn, yn effeithio ar fywydau pobol yn fyd-eang. Mae hyn yn wir am y byd yr ydym yn byw ynddo heddiw, p'un a ydym yn meddwl am economïau'r byd, yr holl broblemau sy'n gysylltiedig â chynhesu byd-eang, am ryfeloedd ac aflonyddwch, neu'r llygredd cynyddol yn yr amgylchedd - mae'n ymddangos nad oes ateb dynol i unrhyw un ohonynt. Dim ond ymyrraeth Duw all ddatrys y problemau hyn a rhoi diwedd ar gamreolaeth dyn o'r byd yr ydym yn byw ynddo.

Bydd dychweliad Iesu i’r ddaear i sefydlu rheolaeth Duw yn y byd, yn dod â’r holl ddrygioni hyn i ben a sefydlu heddwch a thegwch yr ydym i gyd yn hiraethu drosodd. Ond beth fydd ein hymateb i’r arwyddion mae Iesu yn eu rhoi inni yng Ngair Duw?

A fydd ein hymateb ni fel un y Phariseaid a’r Sadwceaid a wrthododd yn ystyfnig i gael eu darbwyllo o bwy oedd Iesu ac iddo siarad dros Dduw, neu yn debyg i ymateb y Ninefeaid a wrandawodd ar neges Duw trwy Jona, ac a edifarhaodd fel roedd Duw yn galw am?

Mae gwers Iesu i ni yn glir fel y mae gwers Jona. Ceisiwch yn awr ffordd Duw o edifeirwch cyn i farnau Duw gael eu gweithredu ar y ddaear.

Michael JP Morgan.


No comments:

Post a Comment

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...