Duw, yn siarad trwy ei broffwyd Eseia am Israel, dwedodd - “Chwi yw fy nhystion, medd yr ARGLWYDD … er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof … mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy ôl” (Eseia 43:10).
Prif bwrpas Duw yw llenwi’r ddaear â’i Ogoniant (Numeri 14:21). Dewisodd
yr Iddewon, disgynyddion Abraham, i chwarae rhan arbennig wrth sicrhau y bydd
hyn yn digwydd.
Dywedwyd wrth Abraham y byddai holl deuluoedd y ddaear yn cael eu
bendithio trwyddo ef. Daeth disgynnydd Abraham, yr Arglwydd Iesu Grist –a oedd
yn Iddew – â hynny i fodolaeth, trwy dynnu pechod i ffwrdd trwy ei farwolaeth
a’i atgyfodiad.
Roedd gan y genedl Iddewig ran hanfodol i’w chwarae wrth gyflawni
cynllun Duw. Roeddent i fod yn dystion i fodolaeth Duw ac, fel cenedl, i fyw yn
y fath fodd a fyddai’n dangos daioni a gras Duw i’r holl genhedloedd. I helpu
hyn i ddigwydd cafodd Moses cyfreithiau gan Dduw. Trwy gadw’r cyfreithiau
hynny, byddair Iddewon yn adlewyrchu gogoniant a chyfiawnder Duw drostynt eu
hunain ac eraill. Yn anffodus, mae hanes yr Hen Destament yn dangos na
wnaethant gyflawni eu rhan o'r cynllun yn iawn. Daethant yn enghreifftiau mor
wael nes i Dduw eu symud, am 70 mlynedd o Israel i Fabilon (BC586-BC516).
Dywedodd Duw y byddai'n alltudio'r pobol am eu anufudd-dod, ond dim ond
am ychydig ac y byddai hefyd yn eu casglu a'u hadfer i'w gwlad. Mae’r Testament
Newydd yn rhoi’r un neges (Luc 21:24 a Rhufeiniaid 11:25-27).
Ail-gasglwyd y genedl i'r wlad ar ddiwedd y cyfnod Babilonaidd ac eto yn
1948. Roedd y cydgasgliad diweddaraf hwn ar ôl alltud a barhaodd am bron i 2000
o flynyddoedd, alltud a oedd yn cyd-fynd â gwrth-Semitiaeth gyson ac echrydus
ac ymdrechion ffiaidd i ddinistrio nhw.
Mae bodolaeth barhaus yr Iddewon ar ôl y fath amgylchiadau, yn
dystiolaeth rymus i fodolaeth Duw, ac i'r ffaith Ei fod bob amser yn cadw Ei
addewidion.
Mae'r Beibl hefyd yn dweud bod ail-sefydlu Wladwriaeth
Israel yn rhagflaenydd i ddychwelyd yr Arglwydd Iesu Grist i'r ddaear, gan fod
Iesu i ddychwelyd i Jerwsalem. Yna bydd yn cymryd drosodd rheolaeth y ddaear,
trwy sefydlu Teyrnas Dduw, ac yn raddol yn dileu pechod a marwolaeth ac yn
gwneud y ddaear yn baradwys unwaith eto. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau
cyflawniad o ogoniant Duw i lenwi'r ddaear, yn union fel y mae Ei wedi addo.
Mae'r Iddewon wedi credu trwy gydol eu hanes y byddai Duw yn
anfon Meseia atynt. Gall y Meseia Iddewig hwn fod yn Waredwr i ni i gyd. Iesu
oedd, ac yw, y Meseia hwnnw.
Heddiw mae’r genedl Iddewig wedi cael ei hadfer gyda
Jerwsalem yn brifddinas iddi, ond nid yw rhan y pobol Iddewig ym mhwrpas Duw
wedi ei chwblhau eto.
Cymerwch sylw ar bobl Israel a'r Iddewon ledled y byd. Tystionant
o hyd i fodolaeth Duw a dyfodiad sicr ein Hiachawdwriaeth, ar ddychweliad yr Arglwydd
lesu Grist i'r ddaear.
No comments:
Post a Comment