Thursday, December 1, 2022

Mae Iesu i Deyrnasu fel Brenin

 

Bydd y rhan fwyaf o’r byd Cristnogol yn dathlu genedigaeth Iesu Grist ar ddiwedd Rhagfyr, ond heb sylweddoli ei arwyddocâd llawn, a’i fod yn ddychwelyd i’r ddaear i deyrnasu fel Brenin dros holl genhedloedd y ddaear, fel y mae y blog hyn yn ddangos.

Cyn i Iesu gael ei eni, roedd llawer o pobol yn gwybod am ei eni ac yn ei ddisgwyl, oherwydd roedd Duw wedi rhagfynegi ohono yn ei Air y Beibl, gannoedd lawer o flynyddoedd cyn ei eni; hefyd lle yr oedd i gael ei eni, ac roedd i fod yn Frenin. Dyma sut roedd y doethion a ddaeth o'r dwyrain (ystyrir i fod yn Iran heddiw), yn gallu bod yn bresennol yn ei enedigaeth.

Mae efengyl Mathew yn ein hysbysu, “Wedi i Iesu gael ei eni ym Methlehem Jwdea yn nyddiau'r Brenin Herod, daeth seryddion o'r dwyrain i Jerwsalem a holi, “Ble mae'r hwn a anwyd yn frenin yr Iddewon? Oherwydd gwelsom ei seren ef ar ei chyfodiad, a daethom i'w addoli.” A phan glywodd y Brenin Herod hyn, cythruddwyd ef, a Jerwsalem i gyd gydag ef. Galwodd ynghyd yr holl brif offeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, a holi ganddynt ble yr oedd y Meseia i gael ei eni. Eu hateb oedd, “Ym Methlehem Jwdea, oherwydd felly yr ysgrifennwyd gan y proffwyd: A thithau Bethlehem yng ngwlad Jwda, nid y lleiaf wyt ti o lawer ymysg tywysogion Jwda, canys ohonot ti y daw allan arweinydd a fydd yn fugail ar fy mhobl Israel” (Mathew 2:1-6).

Cyn i Iesu gael ei eni, dywedodd yr angel Gabriel wrth ei fam Mair y byddai'n beichiogi a chael mab, a fyddai ef yn Frenin, “Bydd hwn yn fawr, a Mab y Goruchaf y gelwir ef; rhydd yr Arglwydd Dduw iddo orsedd Dafydd ei dad, ac fe deyrnasa ar dŷ Jacob am byth, ac ar ei deyrnas ni bydd diwedd” (Luc 1:32,3).

Pan cwrddodd Iesu gyntaf â Nathanael, a oedd i ddod yn ddisgybl iddo, dywedodd Nathanael wrth Iesu, “Rabbi,” meddai Nathanael wrtho, ti yw Mab Duw, ti yw Brenin Israel” (Ioan 1:49).

Pan farchogodd Iesu i Jerwsalem ar Sul y Blodau gwaeddodd y pobol, “Hosanna! Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd, yn Frenin Israel” (Ioan 12:13).

Pan ddygwyd Iesu gerbron Pilat (Llywodraethwr Rhufeinig), gofynnodd iddo, “Yr wyt ti yn frenin, ynteu? Ti sy'n dweud fy mod yn frenin, atebodd Iesu. Er mwyn hyn yr wyf fi wedi cael fy ngeni, ac er mwyn hyn y deuthum i'r byd” (Ioan 18:37). Ysgrifennodd Pilat arwydd a roddwyd ar y groes, “Iesu o Nasareth, Brenin yr Iddewon” (Ioan 19:19).

Pan atgyfodwyd Iesu oddi wrth y meirw, siaradodd â'i ddisgyblion am y pethau sy'n ymwneud â theyrnas Dduw, a'r cwestiwn olaf iddo oedd, “Arglwydd, ai dyma'r adeg yr wyt ti am adfer y deyrnas i Israel?” (Actau 1:6) Rhaid i deyrnas, trwy ddiffiniad, gael Brenin.

Dywedodd Iesu ohono'i hun, y byddai'n llywodraethu ar yr holl genhedloedd, pan y ddaw eto, “Pan ddaw Mab y Dyn yn ei ogoniant, a'r holl angylion gydag ef, yna bydd yn eistedd ar orsedd ei ogoniant. Fe gesglir yr holl genhedloedd ger ei fron, a bydd ef yn eu didoli oddi wrth ei gilydd, fel y mae bugail yn didoli'r defaid oddi wrth y geifr, ac fe esyd y defaid ar ei law dde a'r geifr ar y chwith. Yna fe ddywed y Brenin wrth y rhai ar y dde iddo, Dewch, chwi sydd dan fendith fy Nhad, i etifeddu'r deyrnas a baratowyd ichwi er seiliad y byd” (Mathew 25:31-34).

Mae y flaenorol yn dangos bod Duw yn gallu rhagweld y dyfodol. Fe gwnaeth y peth yn amlwg ymlaen llaw, pryd y gallai pobol ddisgwyl ymddangosiad cyntaf Ei Fab. Mae Efe hefyd yn rhagfynegi am ail ymddangosiad Iesu (sydd eto yn y dyfodol), fel y gall pobol baratoi eu hunain ar gyfer dychweliad ei Fab i’r ddaear, er mwyn iddynt trwy ras, gael rhan yn Ei Deyrnas fyd-eang, dan rheolaeth yr Arglwydd Iesu Crist fel ei Brenin.

Yn Ei Air, mae Duw wedi rhoi llawer o ragfynegiadau ynghylch pryd i ddisgwyl ail ymddangosiad Crist i’r ddaear, sy’n arwain Cristedelphiaid i gredu ei fod ar fin digwydd.

No comments:

Post a Comment

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...