Mae’r salmydd yn
datgan yn (Salm 94:9): “Onid yw'r
un a blannodd glust yn clywed, a'r un a luniodd lygad yn gweld”? Yn ddysgu ni bod
Duw, a'u gwnaeth mor rhyfeddol, yn clywed popeth ac yn gweld popeth a wnawn.
Gan symud yn nes at y
dyddiau yr ydym yn byw ynddynt, pan ystyriwn gymhlethdodau a gweithrediad
rhyfeddol y llygad gyda'r wybodaeth lawnach sydd bellach ar gael i ni, sut y
gallai'r llygad fod wedi dod i fodolaeth trwy esblygiad?
Mewn gwirionedd cyfaddefodd
Darwin: “The thoughts of the eye turn me cold”. Oherwydd roedd yn rhaid
iddo fod yn berffaith y tro cyntaf. Gofynnodd Isaac Newton: “Was the eye
contrived without skill in optics, and the ear without knowledge of sound?” Roedd
angen sgiliau Creawdwr gwych i creu lygad a chlust. Felly ni ddylem eu cymryd
yn ganiataol, ond dylem ddiolch i Dduw amdanynt.
Mae’r salmydd hefyd yn ein
cynghori yn (Salm 119:18), i ofyn i Dduw am agor ein llygaid: “Agor fy llygaid
imi weld rhyfeddodau dy gyfraith”, fel y gellir cael gwybodaeth trwy ddarllen
ei Air pa fodd y gallwn ei wasanaethu Ef yn dderbyniol. Ysgrifennwyd geiriau
Salm 119 gan y salmydd dan ysbrydoliaeth (fel yr oedd yr holl ysgrythur), ac
felly mae Duw yn siarad yn uniongyrchol â ni trwy ei was, i ni ofyn iddo am
agor ein llygaid fel y gellir cael cyngor o'r Beibl ar sut i wasanaethu Ef yn
dderbyniol.
Ar ddechrau Salm 119, mae’r
salmydd yn datgan bendith i pobol sydd yn tueddu at Dduw a’i ffyrdd: “Gwyn eu
byd y rhai perffaith eu ffordd,y rhai sy'n rhodio yng nghyfraith yr ARGLWYDD.
Gwyn eu byd y rhai sy'n cadw ei farnedigaethau, ac yn ei geisio ef â'u holl
gallon” (Salm 119:1,2).
Mae’n hollbwysig inni roi’r
fath sylw i Air Duw, er mwyn ar ddychweliad Iesu, fydd na wŷr a gwragedd yn
awyddus nid yn unig i ddarllen ond i roi’r pethau y maent wedi’u dysgu ar
waith, er mwyn iddynt hwy trwy ras, derbyn ei gymeradwyaeth a'i wobr am
wasanaeth ffyddlon: “Ardderchog,
fy ngwas da a ffyddlon, . . . . buost yn ffyddlon wrth ofalu am ychydig, fe
osodaf lawer yn dy ofal; tyrd i ymuno yn llawenydd dy feistr” (Mathew 25:21).
No comments:
Post a Comment