Monday, May 8, 2023

Goleufa gobaith.

 

Mae cyfathrebu yn rhan o fywyd bob dydd. Rydym yn anfon ac yn derbyn negeseuon bron heb ail feddwl. Mae'r oes electronig wedi dod â chyfathrebu bron ar unwaith â phobol ledled y byd. Gallwn clywed a gweld digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd ar ein dyfeisiau electronig bach pwerus.

Cyn dyfeisiau electronig o'r fath, defnyddiwyd dulliau eraill, llawer arafach ond eto yn effeithiol, i roi rhybuddion a chyfarwyddiadau, megis curiad drymiau'r jyngl,a allai gario sain pellteroedd hir a chyfleu negeseuon i achub bywydau.

Un dull mor effeithiol o gyfathrebu yn Lloegr oedd y begwn tân. Codwyd y rhain ar fryniau uchel i alluogi negeseuon i gael eu hanfon a'u trosglwyddo, i rybuddio pobol am ddigwyddiad sydd ar ddod. Defnyddiwyd y dull hwn yn effeithiol yn 1588 i rybuddio am yr Armada Sbaenaidd, llynges fawr o longau, yr oedd Sbaen wedi eu casglu i oresgyn Lloegr.

Weithiau mae negeseuon dathlu yn cael eu seinio gyda thrwmpedau, mewn digwyddiadau seremonïol, neu i goffáu dechrau blwyddyn newydd. Yng nghyfnod y Beibl defnyddiwyd trwmpedau yn effeithiol i seinio rhybuddion mewn brwydr, yn ogystal ag i arwyddo dathliadau megis coroni brenin.

Roedd un digwyddiad penodol a gofnodwyd yn yr Ysgrythurau yn arfer peri penbleth i fyfyrwyr y Beibl, gan feddwl tybed sut y gellid ei gyflawni. Mae'n ymwneud â dychweliad Iesu i'r ddaear a gofnodwyd yn llyfr y Datguddiad, sy'n sôn am ddychweliad Iesu ac yn nodi y bydd hwn yn ddigwyddiad a fydd i'w weld ledled y byd fel mae'n digwydd. Nawr, oherwydd cyfathrebu modern, gallwn ddeall sut y gall hyn ddigwydd: “Wele, y mae'n dyfod gyda'r cymylau a bydd pob llygad yn ei weld, ie, a'r rhai a'i trywanodd, a bydd holl lwythau'r ddaear yn galaru o'i blegid ef. Boed felly! Amen” (Datguddiad 1:7).

Efallai y bydd yn syndod i rhywun sy’n newydd i ddysgeidiaeth y Beibl, ond y newyddion gwych yw, bod yr Arglwydd Iesu Grist i ddychwelyd i’r ddaear i gymryd drosodd llywodraeth y byd a gwneud y byd yn lle hardd i fyw ynddo. Dywedodd angylion wrth ddisgyblion Iesu y byddai’n dychwelyd, ar yr adeg yna pan oedd ar fin esgyn i’r nef, lle mae’n byw nawr: “Wedi iddo ddweud hyn, a hwythau'n edrych, fe'i dyrchafwyd, a chipiodd cwmwl ef o'u golwg. Fel yr oeddent yn syllu tua'r nef, ac yntau'n mynd, dyma ddau ŵr yn sefyll yn eu hymyl mewn dillad gwyn, ac meddai'r rhain, “Wŷr Galilea, pam yr ydych yn sefyll yn edrych tua'r nef? Bydd yr Iesu hwn, sydd wedi ei gymryd i fyny oddi wrthych i'r nef, yn dod yn yr un modd ag y gwelsoch ef yn mynd i'r nef” (Actau 1:9-11).

Mae’r apostol Paul, yn un o lawer o awduron y Testament Newydd, sydd yn ysgrifennu am yr un testun o ddychweliad Iesu: “Oherwydd amlygwyd gras Duw i ddwyn gwaredigaeth i bawb, gan ein hyfforddi i ymwrthod ag annuwioldeb a chwantau bydol, a byw'n ddisgybledig a chyfiawn a duwiol yn y byd presennol, a disgwyl cyflawni'r gobaith gwynfydedig yn ymddangosiad gogoniant ein Duw mawr a'n Gwaredwr, Iesu Grist” (Titus 2:11-13).

Mae’r Beibl, fel begwn, yn lledaenu neges o obaith, anogaeth ac Iachawdwriaeth ledled y byd, a gall pobol ei ddarllen yn eu mamiaith eu hunain. Mae’r addewid y bydd Iesu yn dychwelyd i’r ddaear yn newyddion gwych. Bydd yn dod â holl awdurdod a gallu Duw i sefydlu Teyrnas Dduw o gyfiawnder a thangnefedd ar y ddaear, ble fydd pawb sydd wedi manteisio cynnyg Iachawdwriaeth Dduw, ac wedi dilyn ei orchymynion, trwy ras, yn cael rhan.

 

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...