Mae yna ddywediad adnabyddus yn Prydain Fawr sy’n ceisio
rhagweld sut fydd y tywydd yfory. Mae'n seiliedig ar ffenomenon y mae pobol
wedi sylwi ers cyn cof ac mae rhywfaint o dystiolaeth wyddonol bod hyn yn wir. Y
dywediad yw: “Awyr goch yn y nos, hyfrydwch bugeiliaid. Awyr goch yn y bore,
rhybudd bugeiliaid!”
Cyfeiriodd Iesu at y math hwn o ragolygon tywydd pan
ofynnwyd iddo gan y Phariseaid a’r Sadwceaid i ddarparu arwydd o’r nef a
fyddai’n cadarnhau ei hawliad ei fod yn Fab Duw, “Gyda'r
nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’ Ac yn
y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn
gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli
arwyddion yr amserau . . . ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona” (Mathew
16:2-4).
Roedd Iesu wedi rhoi arwydd iddyn nhw cyn hyn i wylio
amdano, sef arwydd y proffwyd Jona, “Oherwydd fel y bu Jona
ym mol y morfil am dri diwrnod a thair nos, felly y bydd Mab y Dyn yn nyfnder y
ddaear am dri diwrnod a thair nos” (Mathew 12:40).
Byddai rhywun wedi meddwl y byddai’r holl wyrthiau o
iachâd a gyflawnwyd gan Iesu yn ystod ei tair blynedd o weinidogaeth wedi bod
yn ddigon prawf, fod yn wir yn Fab Duw ac yn siarad ar ran Duw. Ond yr oedd
arnynt eisiau arwydd mwy dramatig i brofi ei allu a'i darddiad dwyfol, a byddai
yr arwydd hwnnw yn cael ei ddarparu, pa fyddent yn ei wrando nei peidio.
Daeth y prawf diamheuol fod Iesu yn Fab Duw gyda'i
atgyfodiad oddi wrth y meirw. Dyma beth roedd Iesu yn cyfeirio ato trwy
gyfeirio at Jona. Gan fod Jona y tu mewn i'r pysgodyn mawr am dri diwrnod a
thair noson, felly byddai Iesu yn y bedd am dri diwrnod a thair noson ac yna yn
cael ei godi'n fyw eto. Pan aeth Jona yn y diwedd i Ninefe i lefaru Gair Duw
wrth y pobol, edifarhaodd y trigolion am eu ffyrdd drygionus a chawsant eu
hachub rhag barnau Duw a lefarwyd yn eu herbyn.
Ond rhoddodd Iesu arwyddion i wylio amdano, i pobol oedd
yn byw o'r amser hwnnw ymlaen, fel y byddent yn gwybod pryd i ddisgwyl iddo
ddychwelyd i'r ddaear, “Bydd arwyddion yn yr haul a'r lloer
a'r sêr. Ar y ddaear bydd cenhedloedd mewn cyfyngder yn eu pryder rhag trymru
ac ymchwydd y môr. Bydd pobl yn llewygu gan ofn wrth ddisgwyl y pethau sy'n dod
ar y byd; oherwydd ysgydwir nerthoedd y nefoedd. A'r pryd hwnnw gwelant Fab y
Dyn yn dyfod mewn cwmwl gyda nerth a gogoniant mawr. Pan ddechreua'r pethau hyn
ddigwydd, ymunionwch a chodwch eich pennau, oherwydd y mae eich rhyddhad yn
agosáu” (Luc 21:25-28).
Mae’r arwyddion mae Iesu yn eu rhoi yn Luc 21 yn
crynhoi’r union fyd rydyn ni yn byw ynddo nawr – ac felly mae’n rhaid i Iesu
ddychwelyd yn fuan. Mae'r arwyddion yn sôn am fyd mewn terfysg, ansefydlogrwydd
ac ofn, yn effeithio ar fywydau pobol yn fyd-eang. Mae hyn yn wir am y byd yr
ydym yn byw ynddo heddiw, p'un a ydym yn meddwl am economïau'r byd, yr holl
broblemau sy'n gysylltiedig â chynhesu byd-eang, am ryfeloedd ac aflonyddwch,
neu'r llygredd cynyddol yn yr amgylchedd - mae'n ymddangos nad oes ateb dynol i
unrhyw un ohonynt. Dim ond ymyrraeth Duw all ddatrys y problemau hyn a rhoi
diwedd ar gamreolaeth dyn o'r byd yr ydym yn byw ynddo.
Bydd dychweliad Iesu i’r ddaear i sefydlu rheolaeth Duw
yn y byd, yn dod â’r holl ddrygioni hyn i ben a sefydlu heddwch a thegwch yr
ydym i gyd yn hiraethu drosodd. Ond beth fydd ein hymateb i’r arwyddion mae
Iesu yn eu rhoi inni yng Ngair Duw?
A fydd ein hymateb ni fel un y Phariseaid a’r Sadwceaid a
wrthododd yn ystyfnig i gael eu darbwyllo o bwy oedd Iesu ac iddo siarad dros
Dduw, neu yn debyg i ymateb y Ninefeaid a wrandawodd ar neges Duw trwy Jona, ac
a edifarhaodd fel roedd Duw yn galw am?
Mae gwers Iesu i ni yn glir fel y mae gwers Jona.
Ceisiwch yn awr ffordd Duw o edifeirwch cyn i farnau Duw gael eu gweithredu ar
y ddaear.
Michael JP Morgan.
