Tuesday, August 2, 2022

Yr luddewon yn Pwrpas Duw.

 

Duw, yn siarad trwy ei broffwyd Eseia am Israel, dwedodd - “Chwi yw fy nhystion,  medd yr ARGLWYDD … er mwyn ichwi gael gwybod, a chredu ynof … mai myfi yw Duw. Nid oedd duw wedi ei greu o'm blaen, ac ni fydd yr un ar fy ôl” (Eseia 43:10).

Prif bwrpas Duw yw llenwi’r ddaear â’i Ogoniant (Numeri 14:21). Dewisodd yr Iddewon, disgynyddion Abraham, i chwarae rhan arbennig wrth sicrhau y bydd hyn yn digwydd.

Dywedwyd wrth Abraham y byddai holl deuluoedd y ddaear yn cael eu bendithio trwyddo ef. Daeth disgynnydd Abraham, yr Arglwydd Iesu Grist –a oedd yn Iddew – â hynny i fodolaeth, trwy dynnu pechod i ffwrdd trwy ei farwolaeth a’i atgyfodiad.

Roedd gan y genedl Iddewig ran hanfodol i’w chwarae wrth gyflawni cynllun Duw. Roeddent i fod yn dystion i fodolaeth Duw ac, fel cenedl, i fyw yn y fath fodd a fyddai’n dangos daioni a gras Duw i’r holl genhedloedd. I helpu hyn i ddigwydd cafodd Moses cyfreithiau gan Dduw. Trwy gadw’r cyfreithiau hynny, byddair Iddewon yn adlewyrchu gogoniant a chyfiawnder Duw drostynt eu hunain ac eraill. Yn anffodus, mae hanes yr Hen Destament yn dangos na wnaethant gyflawni eu rhan o'r cynllun yn iawn. Daethant yn enghreifftiau mor wael nes i Dduw eu symud, am 70 mlynedd o Israel i Fabilon (BC586-BC516).

Dywedodd Duw y byddai'n alltudio'r pobol am eu anufudd-dod, ond dim ond am ychydig ac y byddai hefyd yn eu casglu a'u hadfer i'w gwlad. Mae’r Testament Newydd yn rhoi’r un neges (Luc 21:24 a Rhufeiniaid 11:25-27).

Ail-gasglwyd y genedl i'r wlad ar ddiwedd y cyfnod Babilonaidd ac eto yn 1948. Roedd y cydgasgliad diweddaraf hwn ar ôl alltud a barhaodd am bron i 2000 o flynyddoedd, alltud a oedd yn cyd-fynd â gwrth-Semitiaeth gyson ac echrydus ac ymdrechion ffiaidd i ddinistrio nhw.

Mae bodolaeth barhaus yr Iddewon ar ôl y fath amgylchiadau, yn dystiolaeth rymus i fodolaeth Duw, ac i'r ffaith Ei fod bob amser yn cadw Ei addewidion.

Mae'r Beibl hefyd yn dweud bod ail-sefydlu Wladwriaeth Israel yn rhagflaenydd i ddychwelyd yr Arglwydd Iesu Grist i'r ddaear, gan fod Iesu i ddychwelyd i Jerwsalem. Yna bydd yn cymryd drosodd rheolaeth y ddaear, trwy sefydlu Teyrnas Dduw, ac yn raddol yn dileu pechod a marwolaeth ac yn gwneud y ddaear yn baradwys unwaith eto. Bydd hyn, yn ei dro, yn sicrhau cyflawniad o ogoniant Duw i lenwi'r ddaear, yn union fel y mae Ei wedi addo.

Mae'r Iddewon wedi credu trwy gydol eu hanes y byddai Duw yn anfon Meseia atynt. Gall y Meseia Iddewig hwn fod yn Waredwr i ni i gyd. Iesu oedd, ac yw, y Meseia hwnnw.

Heddiw mae’r genedl Iddewig wedi cael ei hadfer gyda Jerwsalem yn brifddinas iddi, ond nid yw rhan y pobol Iddewig ym mhwrpas Duw wedi ei chwblhau eto.

Cymerwch sylw ar bobl Israel a'r Iddewon ledled y byd. Tystionant o hyd i fodolaeth Duw a dyfodiad sicr ein Hiachawdwriaeth, ar ddychweliad yr Arglwydd lesu Grist i'r ddaear.

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...