Mae'r apostol Pedr yn un enghraifft o lawer, y datgelodd
Duw ei bwrpas a'i ffordd o iachawdwriaeth, ac y mae Pedr yn cyfeirio atynt yn
(2 Pedr 3: 5-9).
“P5 Y maent yn fwriadol yn anwybyddu'r ffaith hon, fod y nefoedd yn bod erstalwm, a'r ddaear wedi ei llunio o ddŵr a thrwy ddŵr gan air Duw;
6 a thrwy ddŵr y dinistriwyd byd yr oes honno, sef dŵr y dilyw.
7 Gan yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn stôr ar gyfer y tân; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol.
8 Gyfeillion annwyl, peidiwch ag anghofio'r un peth hwn, fod un diwrnod yng ngolwg yr Arglwydd fel mil o flynyddoedd, a mil o flynyddoedd fel un diwrnod.
9 Nid yw'r Arglwydd yn oedi cyflawni ei addewid, fel y bydd rhai pobl yn deall oedi; bod yn amyneddgar wrthych y mae, am nad yw'n ewyllysio i neb gael ei ddinistrio, ond i bawb ddod i edifeirwch”.
I aralleirio
pennill 5, dywed Pedr, fod “y nefoedd a’r ddaear” a grëwyd yn y Greadigaeth
wedi dod i fodolaeth trwy Air Duw, sydd yn golygu mai Duw a roddodd y gorchymyn
a’r angylion a wnaeth y gwaith. Barhaodd y "nefoedd a'r ddaear" hynny
i fodoli wedi hynny trwy nerth Gair Duw.
I aralleirio
adnodau 6 a 7 - pennill 6 yn gyntaf, cafodd "nefoedd a daear" - neu y
"byd" (y drefn hon o bethau) dydd Noa - ei ddinistrio gan lifogydd ar
orchymyn Duw - oherwydd mae Genesis pennod 6 yn dweud bod y bobl oedd yn byw y
pryd hwn yn dreisgar iawn ac yn gwbl ddi-dduw.
Pennill 7 “Gan
yr un gair hefyd y mae nefoedd a daear yr oes hon wedi eu gosod mewn
stôr ar gyfer y tân; y maent ar gadw hyd Ddydd barn a distryw yr annuwiol” –
mae Pedr yn dweud, fod (y drefn o bethau) sydd yn bod yn awr, fod Duw yn mynd
i'w ddinistrio hefyd, am yr un rhesymau y dinistriodd Efe y "nef a
daear" mewn dyddiau Noa.
I aralleirio adnodau 8 a 9, mae Pedr yn dweud wrthym, fod
Duw yn bwriadu cymryd Ei amser cyn dod â (trefn pethau) sy’n bodoli nawr i ben
– er mwyn rhoi cyfle i bobol feddwl am yr hyn sy’n digwydd, ac i edifarhau o eu
beiau a eu methiannau, ac i fanteisio ar Ei gynnig o Iachawdwriaeth a gynhwysir
yn y Beibl.
Ond sylwch ar y rhybudd sydd ymhlyg yn y cynnig hwn,
rhaid inni edifarhau a throi at Dduw os ydym am gael ein hachub, sef manteisio
ar Ffordd Iachawdwriaeth Duw sydd wedi ei chanoli yn yr Arglwydd Iesu Grist.
Mae’r apostol Pedr hefyd yn dweud wrthym yn y darn hwn,
fod yr hyn a ddigwyddodd ers talwm yn dempled ar gyfer yr hyn a fydd yn digwydd
eto. Nid ef oedd yr unig un i wneud pwynt o'r fath. Gwnaeth Iesu y pwynt hwnnw
hefyd, ond wrth ei wneud mae’n ychwanegu pwyntiau sylweddol eraill yn Mathew pennod
24, lle mae’n cymharu bywydau’r rhai oedd yn byw yn nyddiau Noa â bywydau’r
rhai bydd yn byw ar ei ddychweliad i’r ddaear.
“Fel y bu yn nyddiau Noa, felly
hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn. Fel yr oedd pobl yn y dyddiau cyn y dilyw
yn bwyta ac yn yfed, yn cymryd gwragedd ac yn cael gwŷr, hyd y dydd yr aeth Noa
i mewn i'r arch, ac ni wyddent ddim hyd nes y daeth y dilyw a'u hysgubo
ymaith i gyd; felly hefyd y bydd yn nyfodiad Mab y Dyn” (Mathew 24:37-39).
Mae Iesu yn gwneud 5 pwynt yn y darn hwn. Pwynt [1] Mae
hanes yn fynd i ailadrodd ei hun – “Fel y bu yn nyddiau Noa, felly hefyd y bydd yn
nyfodiad Mab y Dyn”. [Pwynt 2] Mae Iesu i ddychwelyd i’r ddaear –
mae “nyfodiad Mab y Dyn” yn gyfeiriad at ddychweliad Iesu i’r ddaear. [3] Bydd
dychweliad Iesu yn sydyn ac yn annisgwyl – yn union fel nad oedd y bobol “yn
gwybod hyd nes y daeth y
dilyw a'u hysgubo ymaith i gyd”. [4] Mae Duw wedi rhoi rhybudd i
bobol trwy Ei Air y Beibl - yn union fel y gwnaeth Noa i bobol yn ei ddyddiau
ef. [5] Mae Duw wedi darparu ffordd o ddianc i bobol trwy ddarpariaeth Ei Fab
yr Arglwydd Iesu Grist - yn union fel y darparodd Duw yr arch i bobol dydd Noa.
I grynhoi, mae Iesu yn rhagweld y bydd popeth yn parhau
fel arfer yn mywydau y rhai fydd yn byw yn adeg ei dychwelyd i’r ddaear; er
gwaethaf rybudd Duw ynghylch dychweliad Iesu a’r barnau sydd i ddod ar y
ddaear; er ei fod Ef wedi cynnyg ffordd i'w hachub, ychydig fydd yn cymeryd
mantais arno; yn union fel yr oedd yn nyddiau Noa pan mai dim ond Noa a saith
aelod o ei deulu a oroesodd y dinistr, dim ond wyth o bobl i gyd a oroesodd i
ddechrau’r gwareiddiad nesaf.
Felly o safbwynt Duw nid “nad yw pobl yn gwybod”
am y pethau hyn, ond yn hytrach nad ydyn nhw “eisiau gwybod”; ni ddylai unrhyw
beth ymyrryd â'u ffordd arferol o fyw, o fwyta ac yfed a chymryd rhan mewn
dathliadau priodas, yn gwbl anghofus i Dduw fel eu Creawdwr a'r hyn y mae Efe
yn ei ofyn ganddynt.
Ni fydd y rhan fwyaf o bobol yn eisiau gwybod beth mae
Dduw yn ei ofyn ohonyn nhw. Sut y byddwch chi yn ymateb i’r her honno?
Y cymhelliad dros wneud hynny yw er mwyn cael rhan yn
"nefoedd newydd a daear newydd" Duw – (trwy ddisodli'r "nefoedd
a daear" presennol (2 Pedr 3: 7)) – a sefydlu trefn newydd o bethau, sef
Teyrnas Dduw fyd-eang ar y ddaear gyda Iesu yn frenin drosto, yn teyrnasu o Jerwsalem. Mae Eseia pennod 65 yn
cyfeirio at y “nefoedd newydd a daear newydd” Duw.
“Yr wyf fi'n creu nefoedd newydd a daear newydd; ni
chofir y pethau gynt na meddwl amdanynt. Byddwch lawen, gorfoleddwch yn ddi-baid
am fy mod i yn creu, ie, yn creu Jerwsalem yn orfoledd, a'i phobl yn llawenydd.
Gorfoleddaf yn Jerwsalem, llawenychaf yn fy mhobl; ni chlywir ynddi mwyach na
sŵn wylofain na chri trallod. Ni bydd yno byth eto blentyn yn dihoeni, na henwr
heb gyflawni nifer ei flynyddoedd; llanc fydd yr un sy'n marw'n ganmlwydd, a
dilornir y sawl nad yw'n cyrraedd ei gant . . . . . Bydd y blaidd a'r oen yn
cydbori, a'r llew yn bwyta gwair fel ych; a llwch fydd bwyd y sarff. Ni wnânt
ddrwg na difrod yn fy holl fynydd sanctaidd,” medd yr ARGLWYDD”. (Eseia 65:17-25).
Troednodyn – Daw’r dyfyniadau a ddefnyddiwyd yn y
blog hwn o Y Beibl Cymraeg Newydd Diwygyedig (BCND) 2004 oni nodir yn wahanol.