Wednesday, March 1, 2023

Y Sylfaen Cywir.

 

Yn mis Chwefror 2023, digwyddodd daeargryn dinistriol yn Twrci-Syria, gan adael llawer o adeiladau wedi eu chwalu, miloedd lawer o pobol wedi eu lladd a llawer o miloedd mwy yn ddigartref. Roedd un llun o'r dinistr yn dangos bod un bloc o fflatiau wedi ei ddymchwel yn llwyr, ond yn rhyfeddol, nid oedd y bloc cyfagos hyd yn oed wedi cracio. Dywedwyd bod un wedi ei adeiladu ar sylfaen gadarn, ond nad oedd y llall wedi cydymffurfio â'r Rheoliadau Adeiladu.

Daeth geiriau’r Arglwydd Iesu i’r meddwl, sydd yn adrodd y ddameg am adeiladu ar seiliau cadarn: “Pob un sy'n dod ataf ac yn gwrando ar fy ngeiriau ac yn eu gwneud, dangosaf i chwi i bwy y mae'n debyg: y mae'n debyg i ddyn a adeiladodd dŷ a chloddio'n ddwfn a gosod sylfaen ar y graig; a phan ddaeth llifogydd, ffrwydrodd yr afon yn erbyn y tŷ hwnnw, ond ni allodd ei syflyd, gan iddo gael ei adeiladu yn gadarn. Ond y mae'r sawl sy'n clywed, ond heb wneud, yn debyg i rywun a adeiladodd dŷ ar bridd, heb sylfaen; ffrwydrodd yr afon yn ei erbyn a chwalodd y tŷ hwnnw ar unwaith, a dirfawr fu ei gwymp” (Luc 6:47-49).

Yn y ddameg hon y mae Iesu yn dweud wrthym, fod unrhyw un sydd yn gwrando ar ei eiriau ac yn eu cyflawni, yn adeiladu ar sylfaen sicr iawn, fel y mae’r apostol Paul hefyd yn ein cyfarwyddo: “Ni all neb osod sylfaen arall yn lle'r un sydd wedi ei gosod, ac Iesu Grist yw honno”.  (1 Cor. 3:11).

Felly fe cyfarwyddir ni, i adeiladu ar sylfaen sicr, a'r sylfaen honno yw cred yn Dduw, ac yn gwaith achubol Duw, yn Crist: “Heb ffydd y mae'n amhosibl rhyngu ei fodd ef. Oherwydd rhaid i'r sawl sy'n dod at Dduw gredu ei fod ef, a'i fod yn gwobrwyo'r rhai sy'n ei geisio” (Hebreaid 11:6); “Edifarhewch, a bedyddier pob un ohonoch yn enw Iesu Grist er maddeuant eich pechodau” (Actau 2:38). Mae edifarhau yn golygu “troi bywyd rhywun o gwmpas”.

Wrth ddarllen Gair Duw, byddwn yn dod i sylweddoli beth sydd ei angen ar gyfer iachawdwriaeth ac i gydnabod bod angen inni newid ein ffordd o fyw, i rhoi ein bywydau i blesio Duw yn lle plesio ein hunain. Dylai bedydd ddilyn wedyn, sy'n galw am drochi llwyr mewn dŵr fel oedolion deallgar.

Wedi adeiladu ar sylfaen sicr Duw, gallwn wedyn wynebu yn hyderus yr holl arbrofion  bywyd: “Yr ARGLWYDD yw fy nghraig, fy nghadernid a'm gwaredydd; fy Nuw yw fy nghraig lle llochesaf, fy nharian, fy amddiffynfa gadarn a'm caer” (Salm 18:2); gan wybod un diwrnod y byddwn yn cyfarfod â'n Gwaredwr, a fydd yn rhoi bendith bywyd tragwyddol inni oherwydd ein bod wedi ddilyn ei gyfarwyddiadau: “Carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy'n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol (Ioan 3:16).

Felly y cwestiwn y mae pob un yn ei wynebu ac y mae'n rhaid ei ateb drostynt eu hunain yw, Pa mor sicr yw fy seiliau? ac, A ydwyf fi yn adeiladu ar y seiliau cywir ?

 

 

 

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...