Wednesday, November 2, 2022

A oes na Dduw o Drygioni?

Pan fyddwn yn wynebu temtasiwn ac yn gorfod dewis rhwng da a drwg, a phan fyddwn yn dewis gwneud drwg, pwy sydd ar fai? A ydym ni ar fai yn gyfan gwbl? Neu'r diafol? Neu a yw'n dipyn o'r ddau?

Mae’r Beibl yn dysgu’n glir bod angen inni feddwl am ein meddyliau a’n gweithredoedd ein hunain, a bod Duw yn caniatáu inni ddewis gwneud yr hyn sy’n dda neu’r drwg. Fodd bynnag, os yw ffordd Duw yn wahanol i’n ffordd ni, a ninnau’n mynd i’r cyfeiriad anghywir, pwy sydd ar fai? Os yw Duw yn ein hannog trwy’r Beibl, i wneud y peth iawn, a ninnau’n dewis y peth anghywir, beth a’n hysgogodd i wrthryfela a mynd ein ffordd ein hunain, mewn geiriau eraill i gyflawni pechod? Felly, mae angen inni ystyried o ble y daw pechod, y ddylanwad a all arwain at droseddu.

Yn y Beibl defnyddir y geiriau Diafol a Satan. Ai bod dynol yw hwn, neu ynteu angel syrthiedig? Yn wyneb cwestiynau fel hyn, mae angen inni archwilio’r Beibl yn ofalus, oherwydd mae Duw weithiau’n defnyddio iaith ffigurol i wneud y gwersi’n fwy pwerus a thrawiadol. A allai fod wrthwynebydd i Dduw allan yna, sy'n ceisio dylanwadu ar pobol trwy ei ddrygioni?

Mae’r Beibl yn dweud wrthym yn glir mai Adda oedd yn gyfrifol am ddod â phechod i’r byd: “Ein dadl yw hyn. Daeth pechod i'r byd trwy un dyn, a thrwy bechod farwolaeth, ac yn y modd hwn ymledodd marwolaeth i'r ddynolryw i gyd, yn gymaint ag i bawb bechu . . . gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn” (Rhufeiniaid 5:12,19).

Ym mhennod 3 Genesis, lle digwyddodd y cofnod o’r digwyddiadau y soniwyd amdanynt yn yr adnodau blaenorol, nid oes cyfeiriad at y Diafol na Satan, dim ond at Adda ac Efa a gafodd eu temtio i fod yn anufudd i Dduw gan sarff, a gafodd ei gosbi wedyn am ei chyfrwysdra.

Hefyd, yn y pum llyfr cyntaf o'r Hen Destament, Genesis i Deuteronomium, nid oes sôn ynddynt ychwaith am ddiafol goruwchnaturiol personol, ond yn hytrach y dewisiad a osodwyd o flaen plant Israel fe daeth trwy Moses.

Yn pumed llyfr y Beibl, llyfr Deuteronomium, yr her a osododd Moses gerbron cenedl Israel oedd: “Gwelwch, yr wyf yn gosod ger eich bron heddiw fendith a melltith: bendith os gwrandewch ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, yr wyf yn eu rhoi ichwi heddiw; ond melltith os na fyddwch yn gwrando ar orchmynion yr ARGLWYDD eich Duw, eithr yn troi o'r ffordd yr wyf fi yn ei gorchymyn ichwi heddiw, i ddilyn duwiau estron nad ydych yn eu hadnabod” (Deut.11:26-28).

Yr oedd bendith am ddilyn Duw, a dialedd pe baent yn dewis dilyn duwiau eraill, nad oeddent yn dduwiau o gwbl ond yn eilunod. Gwnaethpwyd yr her honno eto, i’r Israeliaid hynny a aeth i Wlad yr Addewid: Wele, rhoddais o’th flaen heddiw einioes a daioni, ac angau a drygioni: Lle yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti heddiw garu yr Arglwydd dy Dduw, i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei orchmynion a’i ddeddfau, a’i farnedigaethau ef; fel y byddych fyw, ac y’th amlhaer, ac y’th fendithio yr Arglwydd dy Dduw yn y tir yr wyt ti yn myned iddo i’w feddiannu. Ond os try dy galon ymaith, fel na wrandawech, a’th yrru i ymgrymu i dduwiau dieithr, a’u gwasanaethu hwynt; Yr wyf yn mynegi i chwi heddiw, y difethir chwi yn ddiau, ac nad estynnwch ddyddiau yn y tir yr ydwyt yn myned dros yr Iorddonen i fyned i mewn iddo i’w berchenogi” (Deut.30:15-18).  

Sylwch, yn Deuteronomium 11 a 30, [1] mai Moses sy'n cynnig dewis i'r pobol wneud da neu ddrwg, ac nid duw llai, neu Satan personol, na ei weision; [2] mai mater i'r pobol oedd dewis gwneud da neu ddrwg; [3] os oedden nhw'n dewis gwneud drwg, roedd hynny o ganlyniad o ei “calonnau'n troi i ffwrdd ac yn cael eu tynnu i ffwrdd i addoli a gwasanaethu duwiau eraill”.

Byth ers i Adda droseddu, mae pobl wedi bod yn dueddol o wneud yr hyn sy'n ddrwg, ac yn gorfod gwneud ymdrech i wneud yr hyn y mae Duw yn eisiau i ni wneud, y mae'r proffwydi a'r Arglwydd Iesu yn cytuno a hwn: ““Y mae'r galon yn fwy ei thwyll na dim, a thu hwnt i iachâd; pwy sy'n ei deall hi?” (Jeremeia 17:9). “Oherwydd o'r tu mewn, o galon dynion, y daw allan feddyliau drwg, puteinio, lladrata, llofruddio, godinebu, trachwantu, anfadwaith, twyll, anlladrwydd, cenfigen, cabledd, balchder, ynfydrwydd; o'r tu mewn y mae'r holl ddrygau hyn yn dod ac yn halogi rhywun” (Marc 7:21-23). Ond mae na gwellhad a chymorth wrth law.

Yn y salm hiraf yn Llyfr y Salmau, darllenwn y geiriau hyn: “Trowch ymaith oddi wrthyf, chwi rai drwg, er mwyn imi gadw gorchmynion fy Nuw” (Salm 119:115). Roedd y Salmydd yn ymwybodol o'r perygl, y byddai pobol o'r fath yn ceisio ei dynnu oddi wrth Dduw a'i ffyrdd, a cheisio dylanwadu arno i ddilyn eu ffyrdd anghyfiawn. Ond gwyddai am ffordd i wrthweithio eu dylanwad: “Y mae dy air yn llusern i'm troed, ac yn oleuni i'm llwybr . . Pan ddatguddir dy air, bydd yn goleuo ac yn rhoi deall i'r syml” (Salm 119:105,130).

Roedd y salmydd ysbrydoledig yn gwybod beth oedd yr Arglwydd Iesu i’w ymarfer yn ddiweddarach, y gall rhoi sylw dyddiol i Air Duw ein cadw ni yn ddiogel a’n helpu i oresgyn pa bynnag demtasiwn sy’n ein hwynebu, oherwydd mewn ateb i bob temtasiwn, dyfynnodd Iesu orchmynion Duw gyda’r geiriau, “Y mae'n ysgrifenedig” (Mathew 4:4,6,7,10), ac ni ildiodd I pechod unwaith.

Mae yr holl adnodau blaenorol yn pwyntio at y ffaith nad yw y diafol yn ysbryd drwg goruwchnaturiol, nac yn dduw drwg o allu dirfawr ; ond yn hytrach yr anogaeth ddrwg sydd yn dod naill ai o'r tu fewn i ni ein hunain, neu oddiwrth pobol ereill, sydd yn ceisio dylanwadu arnom i wneuthur pethau nad yw Duw yn eu cymeradwyo.

Ysgrifennodd yr apostol Ioan am y dylanwad hwn pan rhybuddiodd: “Oherwydd y cwbl sydd yn y byd—trachwant y cnawd, a thrachwant y llygaid, a balchder mewn meddiannau—nid o'r Tad y mae, ond o'r byd. Y mae'r byd a'i drachwant yn mynd heibio, ond y mae'r sawl sy'n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth” (1 Ioan 2:16,17).

Felly, nid oes yr un Duw holl-bwerus o drygioni, ond y mae Duw holl-bwerus o dda, sydd am inni wrthsefyll yr hyn sy'n drwg a dilyn yr hyn sy'n iawn, er ein lles tragwyddol.

 

 

 

 

 

 

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...