Wednesday, July 28, 2021

 Y Crochenydd.

Heddiw rydym yn cymryd cymaint yn ganiataol. Cymerwch, er enghraifft cwpan neu jwg ar gyfer yfed te neu goffi. Rydym yn mynd ag’e allan o'r cwpwrdd heb roi meddwl ynghylch sut y cafodd ei wneud.
Ond mae Duw yn y Beibl, yn defnyddio'r thema fel y Crochenydd, fel ffordd o ddysgu am y berthynas rhwng y Crëwr a'r Greadigaeth.
Heddiw, dim ond ychydig o grochenwyr sydd yn paratoi clai eu
hunain, ond yn y gorffennol roedd yn rhaid iddynt gloddio'r clai ac yna ei baratoi. 
Mae Eseia yn ysgrifennu am y crochenydd yn sathru y clai (41:25), ag oedd yn cynnwys ei gymysgu â dŵr nes ei fod o gysondeb y gellid ei siapio ar olwyn. Bu'n rhaid iddo fod yn gwbl llyfn a hyblyg, ac nid rhy sych nac yn rhy wlyb, ac yn rhydd o gerrig a graean.
Heddiw, dim ond ychydig o grochenwyr sydd yn paratoi clai eu hunain, ond yn y gorffennol roedd yn rhaid iddynt gloddio'r clai ac yna ei baratoi. Mae Eseia yn ysgrifennu am y crochenydd yn sathru y clai (41:25), ag oedd yn cynnwys ei gymysgu gyda ddŵr, nes ei fod o gysondeb y gellid ei siapio ar yr olwyn. Bu'n rhaid fod yn gwbl llyfn a hyblyg, ac nid rhy sych nac yn rhy wlyb, ac yn rhydd o gerrig a graean.
Mae Jeremiah yn ysgrifennu: “Euthum i lawr i dŷ'r crochenydd, a'i gael yn gweithio ar y droell” (18:3). 
Roedd yn olygfa gyfarwydd yn y dyddiau hynny oherwydd gwnaed yr holl llestri â llaw.
Os ydych chi erioed wedi ceisio gwneud llestr ar olwyn, rydych chi'n gwybod bod yr hyn sy'n edrych yn hawdd i grochenydd medrus, yn profi i fod yn llawer anoddach yn nwylo person sy'n dysgu'r grefft.
Mae Jeremiah yn disgrifio i ni y crochenydd wrth ei gwaith: clai
addas sydd yn cyntaf, yna ei baratoi, yna dwylo medrus y crochenydd, yna mae'r llestr yn araf yn cymryd siâp - neu efallai ei fod yn cael ei ddifetha, a rhaid i'r gwaith dechrau eto. Mae'r lwmp o glai yn cael ei ffurfio'n raddol i mewn i llestr i'w defnyddio neu am harddwch.
Siaradodd Iesu am un o'i ddisgyblion fel "llestr". Pan siaradodd Iesu â'i ddisgybl ffyddlon Ananias am Saul, diwedodd Iesu: 

Llestr dewis i mi yw hwn, i ddwyn fy enw gerbron y Cenhedloedd a'u brenhinoedd, a cherbron plant Israel” (Actau 9:15).

Yn ddiweddarach, newidiwyd enw Saul i Paul, a phan ysgrifennodd at Timotheus, mae'n defnyddio'r un ffigur o leferydd: 

“Os yw rhywun yn ei lanhau ei hun . . . .  yna llestr parch fydd ef, cysegredig, defnyddiol i'r Meistr, ac addas i bob gweithred dda”      (2 Tim. 2:21).

Roedd y dyn cyfiawn Job hefyd, yn ymwybodol o'i darddiad, pan ddywedodd wrth Dduw: 

Cofia mai ti wnaeth fy siapio i fel clai.Wyt ti'n mynd i wneud llwch ohono i eto?” (Job 10:9) Beibl.net.

Fel mae Eseia hefyd yn dweud wrthym: 

“Ond tydi, O ARGLWYDD, yw ein tad; ni yw'r clai a thi yw'r crochenydd; gwaith dy ddwylo ydym i gyd” (64:8).

Ac felly mae Duw yn ein dysgu ni, mai efe yw'r crochenydd a ni yw'r clai, a bod y clai yn ddod o'r ddaear. Ac nad ydym yn gallu yn y cyntaf, i derbyn a chynnwys y pethau gwerthfawr y mae'r Crochenydd am eu gosod yn ei llestri o'r pridd.

Ond beth sy'n gwneud y clai yn hyblyg yn nwylo'r crochenydd? Dŵr yw'r ateb, fel mae Duw trwy Jeremeia yn dweud wrthym: 

O ARGLWYDD, gobaith Israel, gwaradwyddir pawb a'th adawa; torrir ymaith oddi ar y ddaear y rhai sy'n troi oddi wrthyt, am iddynt adael yr ARGLWYDD, ffynnon y dyfroedd byw”. (17:13).

Mae’n amhosib i ddefnyddio clai heb ddŵr. Fel mae'r crochenydd yn troi'r olwyn gyda'i draed ac yn siapio'r clai gyda'i ddwylo, mae'n gyson yn trochi ei fysedd mewn dŵr. Heb y dŵr ni ellir siapio'r clai.
Felly yn ei air, mae Duw yn ein dysgu bod ei fysedd arnom ni, ac rydym ar ei olwyn. Mae e'n ceisio ein siapio i wneud i ni fod yn addas at y diben. Mae’e wedi gwneud y dŵr gwerthfawr, ei air, ar gael yn rhwydd i ni, fel y gall ein cymeriadau gael ei siapio ganddo. 

Yng ngeiriau Eseia: 

“Dewch i'r dyfroedd, bob un y mae syched arno; dewch, er eich bod heb arian; prynwch a bwytewch” (55:1).

Er mwyn i ni gael ein cymeriadau wedi'u siapio ar gyfer defnydd Duw, mae'n rhaid i ni fod eisiau ddarllen ac astudio ei air gyda gweddi, ac i roi caniatâd i gael ein siapio heb ymwrthedd, pan fe ddaw i'n sylw, fod rhaid cael gwared ar ddarnau o raean oddi wrth ein cymeriadau.

Nid oes unrhyw beth y mae ein Tad, y Crochenydd Dwyfol eisiau mwy, nag y dylem i gyd fod yn llestri am anrhydedd, yn addas i'w ddefnyddio.

Ydyn ni'n caniatáu iddo ef gyflawni ei bwrpas ef gyda ni, trwy fanteisio ar yr hyn y mae ef wedi'i ddarparu i ni? Mae'e wedi gwneud ei ran, beth am ein rhan ni?
 
 
Troednodyn – Daw’r dyfyniadau a ddefnddiwyd yn y post hwn o Y Bebl Cymraeg Newydd Diwygiedig (BCND) 2004 oni nodyr yn wahanol.

Tystion Duw.

  Mae'r Beibl yn gwneud honiadau beiddgar iawn am Dduw ac mae'n cynnwys rhai haeriadau am sut y mae Ef. Fel: “Myfi yw'r ARGLWYDD...