Dychmygwch gael sgwrs gyda'ch meddyg am driniaeth bosibl, pa un o'r ddau sylw canlynol y byddai yn well gennych chi ei glywed? “Rydyn ni yn gyson wedi ei wneud felly ac rwy’n meddwl y bydd yn gweithio” neu “Ar y cyfan mae’r ymchwil a wnaed ar pobol fel chi yn dangos bod siawns uchel o lwyddo”.
Flynyddoedd yn ôl, roedd
llawer o ymarfer meddygol yn seiliedig ar gred draddodiadol heb fawr o sail
mewn ymchwil wyddonol. Y dyddiau hyn mae gweithwyr proffesiynol i fod i
ddefnyddio'r dystiolaeth orau gyfredol a wedi ei llywio gan ymchwil berthnasol.
Mae’r sefyllfa yn dra
gwahanol pan fyddwn yn ystyried y dystiolaeth ar gyfer credoau crefyddol, a elwir
yn athrawiaeth neu ddysgeidiaeth.
Gallem ddilyn traddodiadau
neu argyhoeddiadau personol; ond os credwn fod y Beibl yn Air ysbrydoledig Duw,
ac heb gamgymeriad, ni ddylem edrych yn unman arall am athrawiaeth. Fel yr
ysgrifennodd yr apostol Paul yn 2 Timotheus 3:16, “Y mae
pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol i hyfforddi, a
cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder”.
Nid oes amheuaeth ynghylch
“ansawdd” y dystiolaeth o’r Beibl, meddai’r apostol: mae ei eiriau i gyd yn
wir. Ar ben hynny, nid oes rhaid i ni chwilio am gyfnodolion neu adroddiadau
aneglur mewn ieithoedd tramor i ddod o hyd i'r dystiolaeth - mae'r cyfan mewn
un llyfr a gall y rhan fwyaf o pobol bellach i ddarllen yn mamiaith eu hunain.
Serch hynny, mae'n bwysig
astudio'r dystiolaeth yn ofalus. Nid yw yn ddoeth seilio dysgeidiaeth ar un
darn. Mae'n bwysig gwirio bod unrhyw ddefnydd o ddarn yn gyson â darnau eraill
ar yr un pwnc. Mae hyn er mwyn gwirio bod ein dealltwriaeth yn gywir.
Mae hefyd yn bwysig
archwilio cyd-destun darn. Nid oes yr un ohonom yn hoffi cael ein dyfynnu allan
o'r cyd-destun. Yn achos llys Iesu, honnodd tystion ffug fod Iesu wedi dweud y
byddai’n dinistrio ac yn ailadeiladu’r deml Iddewig, fel y cofnodwyd ym Marc
14:58. Ond mae’r testun yn Ioan 2:19-21 yn ei gwneud hi’n glir, bod Iesu wedi
bod yn sôn am “deml ei gorff”, ac felly am ei atgyfodiad.
Mae Duw yn ein sicrhau yn
ei Air y Beibl, ei fod Ef wedi ysbrydoli dynion i lefaru ac i ysgrifennu Ei air
er ein dysgu (2 Tim.3:16), a fel y dywed Ef yn 2 Pedr 1:20,21, “Ond sylwch ar hyn yn gyntaf: nid yw'r un broffwydoliaeth o'r
Ysgrythur yn fater o ddehongliad personol, oherwydd ni ddaeth yr un
broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys ddynol; pobol oeddent a lefarodd air oddi
wrth Dduw wrth gael eu hysgogi gan yr Ysbryd Glân”.
Mae yr
un mor bwysig peidio â newid y geiriau i gyd-fynd â'n meddwl neu'n dysgeidiaeth
ein hunain. Roedd Iesu’n feirniadol iawn o’r Phariseaid a oedd wedi disodli
cyfraith Duw â eu rheolau eu hunain, fel y mae yn nodi yn Mathew 15:3, "A
pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich
traddodiad?”
Mae rhai amheuwyr yn
dadlau, y gallwch chi brofi unrhyw beth rydych chi yn ei hoffi o'r Beibl. Ond
os yw yn bwysig cael meddyg i wirio yr dystiolaeth ymchwil er mwyn ein lles
presennol; yn bwysicach fyth yw gwirio'r dystiolaeth Ysgrythurol am ein
credoau, er mwyn ein lles tragwyddol.